Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • COVID-19 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Busnes    Ardrethi busnes    Os na fyddaf yn talu

Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn talu?

Nodir ein gweithdrefnau adennill isod:

Bil y flwyddyn gyfredol

Os byddwch yn colli rhandaliad, cewch hysbysiad atgoffa yn rhoi saith diwrnod i chi sicrhau bod eich taliadau'n gyfoes.

Os na wnewch y taliad o fewn y terfyn amser, byddwn yn anfon hysbysiad terfynol atoch yn canslo eich hawl i dalu drwy randaliadau ac yn gofyn i chi dalu'r swm sy'n weddill yn llawn.

Bydd yr hysbysiad terfynol yn esbonio, os na fyddwch yn talu’r swm cyfan, y gall arwain at gamau cyfreithiol yn Llys yr Ynadon i gael gorchymyn dyled, gan gynnwys costau cyfreithiol. Ar y cam hwn, os byddwch yn cymryd y cyfle hwn i greu debyd uniongyrchol, efallai y byddwn yn cytuno i gasglu’r balans sy’n weddill drwy ddebyd uniongyrchol, adfer y rhandaliadau misol a ‘thynnu’n ôl’ yr hysbysiad terfynol.

Os nad ydych yn talu’r hysbysiad terfynol neu os nad ydych yn sefydlu debyd uniongyrchol, y ddogfen nesaf a gyhoeddir yw gwŷs i'r Llys Ynadon. Rydym yn paratoi a danfon y gwŷs ar ran y Llys a bydd yn dangos enw llys, dyddiad ac amser y gwrandawiad a’r swm rydym yn ceisio adennill. Hwn fydd y swm sy'n weddill o’r ardrethi busnes yn ogystal â'r costau a godwyd arnom ar gyfer gwneud y cais. O fis Ebrill 2016 ein costau gwŷs bydd £50.00 gyda chostau atebolrwydd gorchymyn o £20.00, gan wneud cyfanswm o £70.00.

Nid oes angen i chi fynychu’r gwrandawiad er mwyn i orchymyn dyled gael ei wneud oherwydd gellir delio â’r achos yn eich absenoldeb.

Os byddwch yn cytuno i dalu’r balans sy’n weddill ond ni allwch dalu’r swm llawn cyn dyddiad y gwrandawiad llys, efallai y bydd yn bosibl cytuno ar drefniant talu arbennig. Bydd unrhyw drefniant arbennig o’r fath yn destun y gorchymyn dyled, gan gynnwys costau, a wneir gennym; fodd bynnag, ni chymerir camau gorfodi o dan y gorchymyn dyled ar yr amod bod y trefniant arbennig yn cael ei gadw.

Oni chaiff yr wŷs ei thalu’n llawn cyn dyddiad y gwrandawiad llys, neu os bydd un o’r ychydig amddiffyniadau cyfreithiol dilys yn berthnasol pan na chaiff taliad ei wneud, cyflwynir y gorchymyn dyled gan yr ynadon, gan gynnwys costau sy’n daladwy i’r cyngor.

Mae gorchymyn dyled ar gyfer ardrethi busnes heb eu talu yn rhoi sawl pŵer i ni orfodi’r taliad. Y dull mwyaf cyffredin a ddefnyddir yw asiantau gorfodi (a alwyd yn feilïaid yn y gorffennol) i gael gwared ar unrhyw nwyddau sy’n berchen i chi a gaiff eu gwerthu mewn arwerthiant i glirio’r ddyled. Yna, codir ffioedd arnoch gan yr asiant gorfodi.  

Os na all yr asiant gorfodi ddod o hyd i unrhyw nwyddau neu unrhyw nwyddau digonol i’w gwaredu a’u gwerthu, ar gyfer unig fasnachwyr gallwn wneud cais i Lys yr Ynadon i’w traddodi i’r carchar am hyd at 3 mis. Ni ellir traddodi cwmnïau cyfyngedig i’r carchar ond gallwn wneud cais i Dderbynnydd Swyddogol y cwmni gael ei ddiddymu.

Bil y flwyddyn flaenorol

Os yw’r bil ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol, dim ond un dyddiad talu rhandaliad sydd fel arfer, ac mae’n rhaid i hwn fod o leiaf 14 diwrnod ar ôl cyflwyno’r bil. Os na chawn y taliad llawn ar y dyddiad dyledus neu cyn hynny, byddwn yn cyflwyno nodyn atgoffa yn dangos y swm sy’n ddyledus y mae angen ei dalu o fewn 7 diwrnod.

Bydd yr hysbysiad atgoffa yn esbonio, os na fyddwch yn talu’r swm cyfan, y gall arwain at gamau cyfreithiol yn Llys yr Ynadon i gael gorchymyn dyled, gan gynnwys costau cyfreithiol. Ar y cam hwn, os byddwch yn cymryd y cyfle hwn i drefnu debyd uniongyrchol, efallai y byddwn yn cytuno i gasglu’r balans sy’n weddill drwy ddebyd uniongyrchol, ac yn ‘tynnu’n ôl’ yr hysbysiad terfynol.

Os na fyddwch yn talu'r nodyn atgoffa neu os na fyddwch yn cytuno i drefnu debyd uniongyrchol ar y cam hwn, y ddogfen nesaf i’w chyhoeddi fydd gwŷs Llys yr Ynadon. Mae’r broses o hyn ymlaen yr un peth ar gyfer bil y flwyddyn gyfredol.

Rydym yn fwy na pharod i roi cyngor ar faterion sy’n ymwneud ag ardrethi busnes a, lle y bo’n berthnasol, gall un o’n swyddogion archwilio/ymweld drefnu i ymweld â’r safle.

Ydych chi’n cael anawsterau’n talu eich ardrethi busnes?

Rydym yn ceisio cydbwyso ein dyletswydd i gasglu ardrethi busnes ar ran Llywodraeth Cymru mewn ffordd sympathetig.

O dan amgylchiadau eithriadol, gallwn gytuno ar drefniadau talu arbennig, ar ben y cynllun rhandaliadau statudol, ar gyfer busnesau sy’n ei chael hi’n anodd talu eu hardrethi busnes. Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu rhoi cymaint o help â phosibl i chi.

Cysylltwch â ni
  • Ebost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl