Grantiau Covid-19 yn gysylltiedig ag eiddo ardrethi busnes yng Nghymru
Cronfa Cadernid Economaidd: Cronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud i gefnogi busnesau ac unig fasnachwyr sydd wedi cael eu heffeithio yn uniongyrchol gan y cyfyngiadau ychwanegol o roddwyd ar waith i reoli lledaeniad COVID-19 gan ddechrau ddydd Gwener 4 Rhagfyr. Pwrpas y grant yw i gefnogi busnesau gyda cymorth llif arian i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau a gyflwynwyd. Mae’r grant yn ceisio ategu mesurau ymateb COVID-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.
Canllawiau i awdurdodau lleol Cymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru
Grantiau Covid-19 - hysbysiad cymorth gwladwriaethol
Noder: Bydd busnesau a gafodd cyllid yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn hon, ond na wnaethant gwblhau Datganiad Cymorth Gwladwriaethol, yn cael e-bost gan TrethiAnnomestig@caerffili.gov.uk yn ystod mis Hydref/Rhagfyr 2020. Bydd yr e-bost hwn yn gofyn i chi ateb ychydig o gwestiynau byr gan ddefnyddio ffurflen ar-lein.
Bydd grantiau a ddarperir trwy gynlluniau Ardrethi Annomestig Covid-19 yn cael eu darparu i fusnesau o dan y Rheoliad De Minimis (1407/2013). Mae'r Rheoliad De Minimis yn caniatáu i fusnesau dderbyn hyd at €200,000 o gymorth gwladwriaethol de minimis mewn cyfnod o dair blynedd; mae hyn yn cynnwys y flwyddyn ariannol gyfredol a'r ddwy flynedd ariannol flaenorol.
Er mwyn gweinyddu cymorth gwladwriaethol de minimis, bydd angen i awdurdodau lleol sefydlu na fydd dyfarnu grant yn arwain at fusnes yn derbyn mwy na €200,000 o gymorth de minimis. Sylwch fod y trothwy yn ymwneud yn unig â chymorth a ddarperir o dan y Rheoliadau De Minimis. Nid yw cymorth o dan eithriadau eraill neu y tu allan i gwmpas Cymorth Gwladwriaethol yn berthnasol i gyfrifo cymorth de minimis.
Yr hyn y mae angen i awdurdodau lleol ei wneud
Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru ddarparu datganiad i ymgeisydd y grant a gofyn y cwestiwn (gweler isod) i unrhyw fusnes sy'n gwneud cais am grant, neu sydd eisoes wedi derbyn grant. Sylwch fod y canllawiau Cymorth Gwladwriaethol wedi'i gyhoeddi'n ôl-weithredol gan Lywodraeth Cymru sawl wythnos ar ôl lansio'r cynllun grant. Mae hyn yn golygu y bydd rhai busnesau wedi derbyn y datganiad ac wedi ateb y cwestiwn fel rhan o'r broses gychwynnol, ond cysylltir ag eraill ar wahân ynghylch y mater Cymorth Gwladwriaethol de minimis hwn.
Mae manylion y datganiad a'r cwestiwn cymorth gwladwriaethol i'w gweld isod er gwybodaeth i chi:
Datganiad
Mae'r grant hwn yn cael ei ddarparu i chi fel cymorth de minimis o dan Reoliad 1407/2013 y CE. Gallwch ddarganfod mwy am beth yw hyn yma: ‘Cymorth de minimis: crynodeb’. Bydd grant a ddarperir i chi o dan y cynllun hwn yn berthnasol os ydych wedi gwneud cais, neu'n bwriadu gwneud cais, am gymorth yn y dyfodol o dan de minimis.
Gwerth y cymorth rydych chi'n ei derbyn o dan y cynllun hwn fydd naill ai £10,000 neu £25,000 yn dibynnu ar ba grant rydych chi'n gymwys i'w gael.
Bydd angen i chi ddatgan y swm hwn i unrhyw asiantaethau cymorth eraill sy'n gofyn ichi faint o gymorth de minimis a gawsoch. At ddibenion y Rheoliad De Minimis, rhaid i chi gadw cofnod o'r grant hwn am 3 blynedd o'r dyddiad y byddwch yn ei dderbyn.
Cwestiwn:
A yw'ch busnes wedi derbyn unrhyw gymorth gan y sector cyhoeddus trwy gynllun Cymorth Gwladwriaethol de minimis dros y 3 blynedd diwethaf? Ydy/Nac Ydy
Os 'nac ydy' yw'r ateb, does dim angen i chi wneud unrhyw beth arall ynghylch y cwestiwn hwn.
Os 'ydy' yw'r ateb, bydd angen i chi ddarparu'r manylion canlynol:
- Enw'r sefydliad sy'n darparu'r cymorth
- Gwerth y cymorth
- Dyddiad derbyn y cymorth
Gwybodaeth Bellach am Gymorth Gwladwriaethol
Yn y lleiafrif o achosion, gall busnesau rhoi gwybod i awdurdodau lleol eu bod wedi mynd dros y terfyn de minimis o €200,000. Os yw hyn yn wir, yna gall awdurdodau lleol barhau i ddarparu grant Ardrethi Annomestig Covid-19 i'r busnes, gan roi gwybod am hyn o dan Hysbysiad Fframwaith Dros Dro COVID-19. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gasglu rhagor o wybodaeth gan fusnesau o'r fath.