FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Cronfa Menter Caerffili

Gall cronfa menter Caerffili gynorthwyo busnesau a mentrau cymunedol newydd a sefydledig ledled y Fwrdeistref Sirol.  

Pwy all gyflwyno cais?

Mae masnachwyr unigol, partneriaethau, cwmnïau cyfyngedig, partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig a grwpiau cymunedol i gyd yn gymwys i wneud cais am gymorth grant. 

Mae’n anelu at fusnesau bach a chanolig eu maint, gyda llai na 250 o weithwyr. Gall busnesau newydd hefyd wneud cais.

Gall costau prosiect cymwys gynnwys:

  • gwefannau a gwefannau e-fasnach 
  • astudiaethau dichonoldeb 
  • cynllunio busnes 
  • costau marchnata untro 
  • cyfarpar cyfalaf 
  • caledwedd a meddalwedd TG
  • gwelliannau i eiddo ac isadeiledd i adeiladau masnachol, diwydiannol a manwerthu

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n fusnes newydd, bydd angen i chi gyflwyno cynllun busnes ynghyd â ffurflen gais. 

Os ydych chi'n gwmni sy'n bodoli eisoes bydd angen i chi hefyd gyflwyno cyfrifon masnachu. 

Bydd angen i ymgeiswyr hefyd ddangos a all cyllid grant helpu i gyfrannu at les economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol y Fwrdeistref Sirol. 

Cysylltwch â Busnes@Caerffili.gov.uk am wybodaeth bellach ar feini prawf cymhwyster a manylion am y cais

Pa lefel o gyllid sydd ar gael?

Costau refeniw - Uchafswm y grant yw £2,000 ar gyfradd ymyrraeth o 50%.

Gall costau cyfalaf ar gyfer gwella eiddo gynnwys gwaith allanol a mewnol ar gyfer adeiladau busnes. Uchafswm y grant yw £10,000 ar gyfradd ymyrraeth o 50%

Pa mor aml mae ceisiadau yn cael eu hystyried?

Asesir ceisiadau yn barhaus gan y Tîm Adnewyddu Menter Busnes.

Ynanffodus, does dim modd i ni ddarparu dyddiad cau ar gyfer ceisiadau gan y byddhyn yn dibynnu ar y lefel derbyn. Bydd y Grant Cronfa Menter Caerffili yn cau pan fydd y cronfeydd wedi'u tanysgrifio'n llawn.

Cysylltwch â ni

Ar y we yn gyffredinol

Cyllid Cymru | Cronfeydd yr UE yng Nghymru