Er nad yw wedi bod yn hawdd, gyda'r newidiadau cyson o ran canllawiau'r llywodraeth a gweithredu mesurau diogelwch a chyfyngiadau symud lleol, mae nifer o fusnesau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn addasu eu ffocws yn barhaus, gan gynnal gwaith adnewyddu a datblygu i sicrhau nad yw anawsterau 2020 yn rhwystro eu dyfodol.