Cyngor bwrdeistref sirol caerffili datganiad bwlch cyflog rhwng y rhywiau 2023

Cefndir

O dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017, mae'n ofynnol i bob sefydliad a restrir yn Atodlen 2 i'r rheoliadau sy'n cyflogi dros 250 o weithwyr adrodd yn flynyddol ar eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Bydd angen i sefydliadau eraill yn y sectorau preifat a gwirfoddol gyda 250 neu fwy o weithwyr gydymffurfio â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau) 2017.

Mae'n ofynnol i'r data hyn gael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor a gwefan y llywodraeth erbyn 30 Mawrth bob blwyddyn. Mae'r data cyflog yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y dyddiad cipolwg o 31 Mawrth 2023. Mae'r rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gyfrifo a chyhoeddi adroddiad ar wahân o ran y bwlch cyflog bonws rhwng y rhywiau. Fodd bynnag, nid oes gan y Cyngor gynlluniau bonws ar waith.

Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn gipolwg lefel uchel o gyflog o fewn sefydliad ac mae'n dangos y gwahaniaeth yn y cyflog cyfartalog rhwng yr holl ddynion a menywod o fewn gweithlu. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i archwilio data’r gweithlu cyfan. Pan fo'r data yn amlygu bwlch cyflog rhwng y rhywiau, nid yw hyn yn golygu bod y Cyngor yn talu gwrywod a merched yn wahanol ar gyfer gwaith y tybir ei fod o werth cyfartal. Fodd bynnag, mae nodi bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn sbardun i ymchwilio ymhellach am y rhesymau pam mae'r bwlch yn bodoli.

Mae hyn yn wahanol i ystyr 'cyflog cyfartal', sydd yn gysyniad cyfreithiol mwy penodol sy'n ymdrin â'r gwahaniaethau cyflog rhwng dynion a menywod sy'n cyflawni swyddi tebyg. Mae angen craffu ar wybodaeth ar lefel y gweithiwr unigol er mwyn sicrhau bod cyflog cyfartal ar gyfer gwaith cyfartal. Mae'r Cyngor yn hyderus nad yw ei fwlch cyflog rhwng y rhywiau yn deillio o dalu gweithwyr gwrywaidd a benywaidd yn wahanol am yr un gwaith neu waith cyfatebol.

Data bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Mae'r gweithwyr a gynhwysir yn y cipolwg hwn ar ddata wedi'u rhagnodi gan y Rheoliadau Dyletswyddau Penodol a'r Rheoliadau Awdurdodau Cyhoeddus. Mae'r Rheoliadau yn cymhwyso'r un diffiniad o weithiwr fel y mae Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae hwn yn ddiffiniad eang sy'n cynnwys gweithwyr dim oriau, prentisiaid a phobl hunangyflogedig.

Yn y tabl isod, mae 'tâl cyffredin' yn golygu cyflog sylfaenol, lwfansau, talu am wyliau a thâl sifft premiwm. Nid yw'n cynnwys tâl goramser, tâl dileu swydd, tâl yn lle gwyliau neu dâl anariannol. Nid yw'r Cyngor yn cynnig cynlluniau gwaith ar dasg neu fonws cymhelliant.

Mae'r data wedi'i seilio ar y dyddiad cipolwg o 31 Mawrth 2023.

Total Number of Employees included in this data: 6550
Number of Females: 4629 (71%)
Number of Males: 1921 (29%)
Bwlch cyflog rhwng y rhywiau – Tâl cyffredin 5.6%
Cyflog cyfartalog bob awr – Tâl cyffredin (Dynion) £14.93
Cyflog cyfartalog bob awr – Tâl cyffredin (Menywod) £14.10
Bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau – Tâl cyffredin 8.7%
Cyflog canolrifol bob awr – Tâl cyffredin (Dynion) £13.66
Cyflog canolrifol bob awr – Tâl cyffredin (Menywod) £12.47
Bwlch cyflog rhwng y rhywiau – Tâl bonws yn y 12 mis yn gorffen 31 Mawrth 2023 0
Bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau – Tâl bonws yn y 12 mis yn gorffen 31 Mawrth 2023 0
Cyfran y gweithwyr gwrywaidd y talwyd bonws iddynt yn y cyfnod o 12 mis yn diweddu 31 Mawrth 2023 0
Cyfran y gweithwyr benywaidd a dalwyd bonws yn y cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2023 0

Cyfran y gweithwyr gwrywaidd a benywaidd ym mhob chwartel

Chwartel Benyw % (Pobl) Gwryw % (Pobl)
Chwartel cyntaf (is) (£10.37 - £10.98)(£9.90 - £9.99) 87.5 (1434) 12.5 (204)
Ail chwartel (£10.98 - £12.70)(£9.99 - £11.47) 64.5 (1057) 35.5 (581)
Trydydd chwartel (£12.70 - £15.63)(£11.47 - £14.63) 62.6 (1024) 37.4 (613)
Pedwerydd chwartel (£15.63 - £69.46)(£14.63 - £68.46) 68.1 (1114) 31.9 (523)

Cyd-destun sefydliadol

Mae'r data'n nodi bod yna lawer mwy o fenywod na dynion mewn swyddi ym mhob chwartel o'r data oherwydd mae ein poblogaeth yn bennaf yn fenywod.

Yn gymesur, mae'r data'n dangos yn erbyn poblogaeth wrywaidd y gweithlu bod 10.62% o’r 1,921 a gyflogir yn meddiannu swyddi yn y chwartel isaf, 30.24% yn yr 2il chwartel, 31.91% yn y 3ydd chwartel a 24.07% yn y 4ydd chwartel.

Mae hyn yn cymharu â 30.98% o’r 4,629 ym mhoblogaeth fenywaidd y gweithlu sydd mewn swyddi yn y chwartel isaf, 22.83% yn yr 2il chwartel, 22.12% yn y 3ydd chwartel a 24.07% yn y 4ydd chwartel.

Rydyn ni’n hyderus nad yw ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn deillio o dalu gweithwyr gwrywaidd a benywaidd yn wahanol am yr un gwaith neu waith cyfatebol. Mae'r bwlch cyflog rhwng y ddau ryw yn ganlyniad i’r rolau y mae dynion a menywod yn gweithio ynddynt ar hyn o bryd a'r cyflogau y mae’r rolau hynny yn eu talu.

Mae ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn adlewyrchu achosion y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar lefel gymdeithasol. Mae ymchwil wedi dangos bod cyfrifoldebau gofalu a swyddi rhan-amser yn parhau i gael eu rhannu/meddiannu yn anghyfartal, ac mai menywod sy'n cael eu tynnu i swyddi rhan-amser yn bennaf. Yn aml, gall y rhain fod yn swyddi sydd islaw lefelau sgiliau’r gweithwyr, ac yn cynnig llai o gyfleoedd dilyniant. Yn y ciplun hwn o ddata, er bod rolau rhan-amser yn cael eu cefnogi ar draws holl strwythur staffio'r Cyngor, mae'n dal yn wir bod mwyafrif helaeth y swyddi rhan-amser a hysbysebir ac, felly, gweithwyr rhan-amser yn disgyn i'r chwartel isaf o dâl, er enghraifft o fewn ein gwasanaethau Glanhau ac Arlwyo.

Cefnogir y cyfle i weithio'n rhan-amser ym mhob swydd arall ar draws strwythur y Cyngor gan amrywiaeth o bolisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n cynnig cyfle i ddynion a menywod ddod o hyd i gydbwysedd rhwng gwaith, hamdden, teulu a chyfrifoldebau gofalu.

Mae methodolegau gweithio hyblyg a gweithio ystwyth yn gynhenid wrth gefnogi lleihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae'r Cyngor yn cynnig nifer o fuddion gyda'r nod o'i gwneud hi'n haws i weithwyr gydbwyso ymrwymiadau cartref a bywyd gwaith gan gynnwys cyfleoedd gwaith ystwyth, gweithio hyblyg, gweithio gartref, seibiannau gyrfa, absenoldeb mabwysiadu, absenoldeb gofalu, cynllun oriau gwaith hyblyg, cynlluniau aberthu cyflog a thalebau gofal plant, rhannu swyddi, absenoldeb, absenoldeb rhieni a thadolaeth a rennir, gweithio rhan-amser, cyfnewid shifftiau/diwrnodau a chyfleoedd gwaith yn ystod y tymor yn unig.

Er bod dynion wedi dangos rhagor o ddiddordeb/wedi'u denu at y polisïau hyn dros nifer o flynyddoedd, mae'n dal yn wir bod llawer mwy o fenywod na dynion wedi manteisio ar y cyfleoedd y mae'r polisïau hyn yn eu cynnig. Er bod y Cyngor yn parhau i ddarparu gwasanaethau amrywiol gyda chrynodiad uchel iawn o swyddi rhan-amser yn y chwartel enillion is, bydd y cyfle i gau ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn gyfyngedig ar sail y nifer o fenywod sy'n meddiannu, ar hyn o bryd, ac yn parhau i gael eu denu at y swyddi hyn.

Wrth geisio mynd i'r afael â'r gwahaniaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau:

Mae'r Cyngor yn glir o ran ei wrthwynebiad i wahaniaethu mewn unrhyw ffurf ac mae ein Haelodau Etholedig a'n gweithwyr yn gweithio i sicrhau bod pawb yn y cymunedau a wasanaethwn yn gallu cael mynediad at a manteisio ar yr ystod lawn o wasanaethau, waeth beth fo'u hamgylchiadau neu eu cefndiroedd unigol. Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ei allu er mwyn parchu natur amrywiol y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn y Fwrdeistref Sirol ac yn ymweld â hi.

Mae'r gwahanol feysydd a gwmpesir gan ofynion cyfreithiol y Cyngor, a elwir yn "nodweddion gwarchodedig" sy'n cynnwys rhywedd, materion cydraddoldeb ehangach, hawliau dynol a meysydd iaith yn cael eu cynnwys yn fanwl yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor 2020 - 2024

Mae'r Cyngor wedi datblygu, a bydd yn parhau i ddatblygu, polisïau, gweithdrefnau a rhaglenni gweithredu i gwrdd â'i rwymedigaethau cyfreithiol a moesol ym maes cyfle cyfartal ac mae'n ymrwymedig i gyfle cyfartal ym mhob agwedd ar gyflogaeth. Mae'r Cyngor yn cymryd camau cadarnhaol i leihau unrhyw anfantais a brofir gan bob unigolyn a grŵp. Mae'n cydnabod bod cydraddoldeb yn cyfrannu at y defnydd mwyaf effeithiol o fedrau a galluoedd cyflogeion.

Rydyn ni wedi buddsoddi'n helaeth mewn creu strwythur tâl a graddio anwahaniaethol, tryloyw ac amodau gwasanaeth sy'n cydymffurfio'n llawn â'r Ddeddf Cyflog Cyfartal ac unrhyw ddeddfwriaeth gwrth-wahaniaethol arall.

Er mwyn cefnogi rhai o'n haelodau staff ar y cyflogau isaf ar draws yr holl gyfadrannau, rydym ni’n talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i'n gweithlu, sef £10.90 yr awr ar 31 Mawrth 2023. Yn flaenorol £9.90 yr awr, roedd y cynnydd o £1.00 i'r gyfradd fesul awr yn golygu bod y gyfradd hon wedi cynyddu'n anghymesur â phob pwynt cyflog arall ar strwythur tâl y Cyngor ar y dyddiad hwn. Yn bennaf oherwydd y rheswm hwn. mae ein data Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ar 31 Mawrth 2023 yn dangos gostyngiad bach yn ein ffigurau bwlch cyflog cymedrig (-1.7%) a chanolrif (-1.3%) rhwng y rhywiau.

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal ym mhob agwedd ar gyflogaeth a darpariaeth gwasanaeth fel yr amlinellir yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac rydyn ni'n cydnabod bod gan bobl anghenion, gofynion a nodau gwahanol. Mae'r Cyngor yn gweithio'n weithredol yn erbyn pob math o wahaniaethu trwy hyrwyddo perthnasoedd da a pharch at ein gilydd o fewn ein cymunedau, trigolion, aelodau etholedig, ymgeiswyr am swyddi a'r gweithlu a rhyngddyn nhw.

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu sefydliad iach, un sy'n darparu amgylchedd sy'n meithrin gweithwyr, yn darparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol ac yn cydnabod rhagoriaeth. Byddwn ni'n parhau i ddatblygu ein polisïau cydbwysedd bywyd a gwaith i ddarparu ar gyfer anghenion amrywiol a newidiol ein staff ac, felly, rydyn ni wedi ymrwymo i foderneiddio ein harferion, gan symud i ffwrdd o fodelau cyflenwi traddodiadol sy'n cyfyngu ystwythder a hyblygrwydd. Bydd ein hagenda trawsnewid uchelgeisiol hefyd yn cefnogi'r gwerthoedd hyn.

Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi ein gweithlu ac rydynm ni'n rhoi cydraddoldeb, cynhwysiant a lles wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud. Rydyn ni'n parhau i hyrwyddo amrywiaeth a herio rhagfarn ymwybodol ac anymwybodol wrth wneud penderfyniadau, a byddwn ni'n ymdrechu i sicrhau bod pob haen yn cael ei chynrychioli'n deg ar draws y sefydliad.

A fyddech gystal â chymryd yr amser i ddarllen y cynnydd a wnaed gan y Cyngor ar draws pob agwedd ar ein gwaith cydraddoldeb.

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.