Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn manylu sut y mae'r Deyrnas Unedig yn cydymffurfio â, ac yn gweithredu, yr hawliau a'r rhyddidau a warantir o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae gan bob awdurdod cyhoeddus rwymedigaeth gadarnhaol i sicrhau bod parch at hawliau dynol wrth wraidd eu gwaith. Mae hyn yn golygu gweithredu mewn ffyrdd sy'n atgyfnerthu egwyddorion Deddf Hawliau Dynol 1998.
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn anghyfreithlon i awdurdod cyhoeddus weithredu mewn ffordd sy'n anghydnaws â Hawl Confensiwn. Mae hyn yn cwmpasu pob agwedd ar weithgareddau'r awdurdod cyhoeddus - yn ei waith o ddydd i ddydd mae gan staff rôl hanfodol i'w chwarae o ran hawliau dynol, nid yn unig wrth sicrhau eu bod bob amser yn gweithredu'n unol â hawliau'r Confensiwn, ond hefyd wrth gefnogi agwedd gadarnhaol at faterion ym maes hawliau dynol ledled y gymuned.
Mae hawliau dynol yn fater cymhleth ac eang, fodd bynnag mae'r agweddau pwysicaf ar y ddeddfwriaeth wedi eu crynhoi yn y tabl isod.
| Prif Erthyglau | |
| Erthygl 2 | Yr hawl i fywyd |
| Article 3 | Gwahardd artaith |
| Erthygl 4 | Gwahardd caethwasiaeth a llafur gorfodol |
| Erthygl 5 | Yr hawl i ryddid a gwarchodaeth (yn amodol ar randdirymiad yn y Deyrnas Unedig o ran y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon) |
| Erthygl 6 | Yr hawl i dreial teg |
| Erthygl 7 | Dim cosbi heb fod cyfraith briodol yn bodoli |
| Erthygl 8 | Yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol |
| Erthygl 9 | Rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd |
| Erthygl 10 | Rhyddid mynegiant |
| Erthygl 11 | Rhyddid i ymgynnull a chymdeithasu |
| Erthygl 12 | Yr hawl i briodi |
| Erthygl 14 | Gwahardd gwahaniaethu |
| Erthygl 16 | Cyfyngiadau ar weithgarwch gwleidyddol estroniaid |
| Erthygl 17 | Gwahardd camddefnyddio hawliau |
| Erthygl 18 | Cyfyngu ar ddefnyddio cyfyngiadau ar hawliau |
| Y Protocol Cyntaf | |
| Erthygl 1 | Diogelu eiddo |
| Erthygl 2 | Yr hawl i addysg |
| Erthygl 3 | Yr hawl i etholiadau rhydd |
| Y Trydydd Protocol ar Ddeg | |
| Erthygl 1 | Diddymu'r gosb eithaf |
Erthygl 14 yw'r cysylltiad mwyaf uniongyrchol, amlwg rhwng deddfwriaeth Hawliau Dynol ac ymrwymiadau'r Cyngor yn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol: -
Erthygl 14: Gwahardd gwahaniaethu
Rhaid i'r mwynhad o'r hawliau a'r rhyddidau a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Hawliau Dynol gael eu sicrhau heb wahaniaethu ar unrhyw sail megis rhyw, hil, lliw, iaith, crefydd, barn wleidyddol neu arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol , cysylltiad â lleiafrif cenedlaethol, eiddo, genedigaeth neu statws arall.
O dan weithrediad hawliau'r Confensiwn, mae gennych yr hawl i beidio â chael eich trin yn wahanol oherwydd eich hil, crefydd, rhyw, barn wleidyddol neu unrhyw statws arall, oni ellir cyfiawnhau hyn yn wrthrychol. Rhaid i bawb gael mynediad cyfartal at hawliau'r Confensiwn, beth bynnag eu statws.
Gall yr Erthyglau yn y ddeddfwriaeth Hawliau Dynol gael eu rhannu i gategorïau gan ddibynnu a ydynt wedi cael eu derbyn yn llwyr heb amheuaeth, neu a ydynt wedi eu cyfyngu neu'n amodol mewn rhyw ffordd benodol. Cyfeirir at y rhain fel hawliau absoliwt, cyfyngedig neu amodol.
- Hawliau absoliwt - Dyma hawliau'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol sydd wedi eu mabwysiadu'n llawn. Nid yw'r hawliau hyn yn gyfyngedig ac ni ellir eu torri ni waeth pa mor angenrheidiol y gallai'r angen i wneud hyn ymddangos. Yr hawliau absoliwt yw Erthyglau 2, 3, 4 a 7.
- Hawliau cyfyngedig - Mae rhai o hawliau'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn gyfyngedig yn y Deyrnas Unedig am resymau penodol. Mae yna hawl i ryddid er enghraifft, ond nid yw hyn yn absoliwt gan fod yn rhaid iddo gael ei gyfyngu gan bwerau'r heddlu i arestio rhywun. Yr hawliau cyfyngedig yw Erthyglau 5, 6 a 12.
- Hawliau amodol - Mae'r rhain yn hawliau y gellid eu torri os oes nod dilys penodol - er budd diogelwch cenedlaethol, diogelwch y cyhoedd ac ati. Rhaid i'r achos o dorri gael ei reoli'n briodol gan y gyfraith a rhaid iddo fod yn angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd. Mae'r ail gysyniad yn golygu bod yn rhaid i'r ymyrraeth â'r hawl fod yn ymateb cymesur i'r nod cyfreithiol. Os gellir cyflawni'r nod drwy ddull llai ymyrgar yna rhaid defnyddi'r dull hwnnw yn lle hynny. Yr hawliau amodol yw Erthyglau 8, 9, 10, 11, 14 a Phrotocol 1 Erthygl 1.