Busnes

Gydag economi leol sy'n tyfu ac yn arall gyfeirio, ac sy'n seiliedig ar ddiwydiant gweithgynhyrchu cryf ac yn datblygu sector gwasanaeth a chymysgedd o gwmnïau rhyngwladol a Phrydeinig, cydnabyddir bwrdeistref sirol Caerffili fel un o'r lleoliadau gorau ar gyfer busnes yn y DU. Mae'r cryfderau hyn yn cael eu hatgyfnerthu gan gysylltiadau rhagorol, gweithlu sy'n gallu addasu ac ymrwymo a rhychwant llawn o gefnogaeth o ran arian a busnes ar gyfer buddsoddiadau newydd ac arloesol.

Ar y tudalennau hyn gallwch ganfod rhagor ynghylch y gefnogaeth a'r cyngor busnes, y grantiau a'r cymorth ariannol, eiddo a safleoedd busnes, gwneud busnes gyda'r cyngor a'r adnoddau cynadledda sydd ar gael ym mwrdeistref sirol Caerffili.

Gallwch hefyd ddarllen y rhifyn diweddaraf o Newsline Busnes a phori gwefan, Parc Busnes Oakdale a Fforwm Busnes Caerffili, sy'n cynnwys manylion y gwobrau ar gyfer busnesau lleol sy'n cael eu noddi gan y Cyngor.


A oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?



  Rhowch sylwadau:-
  
Nodwch na fyddwn yn ymateb yn uniongyrchol i sylwadau y gwneir yma.