Hamdden a thwristiaeth

Mae digonedd i'w wneud yng Nghaerffili ar gyfer y trigolion ac ymwelwyr i'r bwrdeistref sirol. Mae'r tudalennau hyn yn darparu gwybodaeth am y pethau gallwch eu gwneud a'r llefydd gallwch eu hymweld. Maent hefyd yn darparu gwybodaeth i drigolion ar yr holl gyfleusterau hamdden sydd yn ac o amgylch y bwrdeistref sirol.

Byddwch siwr o fod wedi clywed am Gastell Caerffili, un o Gestyll Canol Oesol mwyaf Gorllewin Ewrop, a Chaws enwog Caerffili, ond mae yna lawer fwy o atyniadau ar eich cyfer hefyd. Os ydych yn caru'r awyr agored mae digonedd ar gael i ddiddanu cerddwyr, o grwydro hamddenol i ddringo llethrau serth, ac ar gyfer beicwyr mae gennym rai o'r llwybrau beicio mynydd gorau yng Nghymru. Felly, os ydych yn aros am awr, diwrnod, wythnos neu'n hirach, mae digonedd o lefydd ar eich cyfer a digonedd o weithgareddau i chi eu gwneud.

I wneud cais am Arweiniad Gwyliau Byr Caerffili, sy'n cynnwys gwybodaeth ar sut i gyrraedd yma a'r holl atyniadau, safleoedd hanesyddol, lletyau a mannau bwyta, anfonwch e-bost i tourism@caerphilly.gov.uk , gan roi eich cyfeiriad llawn.

Fel arall, os ydych yn awyddus i lenwi'ch amser hamdden, neu efallai eich bod am fod yn ffit ond ddim yn siwr pa weithgaredd sy'n addas ar eich cyfer, yna bydd y tudalennau hyn ên helpu. Byddwch yn dod o hyd i wybodaeth ar leoliadau chwaraeon, celf gyhoeddus, parciau a mannau gwyrdd, celfyddydau ac adloniant, cyngor ffitrwydd ac iechyd a llawer mwy.

 


A oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?



  Rhowch sylwadau:-
  
Nodwch na fyddwn yn ymateb yn uniongyrchol i sylwadau y gwneir yma.