Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cymdeithas Sefydliadau Mudiadau Gwirfoddol Gwent (CMGG) a Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili wedi ymrwymo i bolisi o gydweithio'n agos gyda'r cymunedau lleol a grwpiau a sefydliadau lleol.
Bydd y tudalennau hyn yn eich helpu i ddarganfod gwybodaeth am ystod o grantiau yr ydym yn eu cynnig i gefnogi gwahanol weithgareddau drwy'r fwrdeistref sirol. Mae grantiau ar gael i gefnogi busnesau, cymdeithasau ac unigolion.
Nid yw'r ffaith eich bod wedi gwneud cais i unrhyw gronfa grant yn golygu o angenrheidrwydd y bydd eich sefydliad yn derbyn cyllid. Bydd y ceisiadau'n cael eu hystyried yn unol â pholisïau cydraddoldeb y darparwyr grantiau.
Mae Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili wedi dyrannu £629,120 o gyllid i'r Sector Gwirfoddol am y flwyddyn 2006/07 (dyrannwyd swm ychwanegol i'r cynllun grantiau bach allan o gyllid Wanless, a ddyrannwyd i'r Fwrdeistref Sirol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a chyfeirir ato mewn man arall yn y llyfryn hwn). Er bod y cyllid am y flwyddyn 2006/07 i gyd wedi ei ddyrannu, bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn sicrhau bod sefydliadau yn y Sector Gwirfoddol yn cael cyfle i gyflwyno ceisiadau am gyllid os bydd mwy o arian ar gael.