Gan ymestyn o gyrion Caerdydd yn y de i ffiniau Bannau Brycheiniog yn y gogledd, mae gan Fwrdeistref Sirol Caerffili rywbeth i'w gynnig i bawb. Lle bynnag rydych yn byw neu'n gweithio yn y fwrdeistref sirol, dim ond taith fer yw hi at yr adloniant a'r cyfleusterau siopa o'r radd flaenaf yng Nghaerdydd neu at dawelwch a heddwch cefn gwlad agored.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw'r 5ed awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru ac mae'n cyflogi tua 9,000 o bobl sy'n golygu mai ef yw'r cyflogwr mwyaf yn yr ardal a'r 10fed mwyaf yng Nghymru. Mae'r cyngor yn darparu ystod eang o wasanaethau i'r 171,000 o bobl sy'n byw ym mwrdeistref sirol Caerffili, yn cynnwys addysg, gwasanaethau amgylcheddol, gwasanaethau cymdeithasol, cyllid, priffyrdd, gwasanaethau hamdden a diogelu defnyddwyr.
Mae ystod eang o lety o safon ar gael am brisiau fforddiadwy yn y fwrdeistref sirol ac mae gan ein hysgolion gofnod cyrhaeddiad ardderchog gyda chanlyniadau TGAU sy'n uwch na chyfartaledd Cymru a chanlyniadau Lefel A sy'n mynd o nerth i nerth.
I ddarllen rhestr o'n holl swyddi gwag ewch i dudalen Swyddi yn y cyngor. Caiff swyddi gwag eu diweddaru bob dydd Mercher, felly os na allwch ddod i hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdani - rhowch gynnig arall arni wythnos nesaf!