Cynigia Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfleoedd manwerthu gwych i fusnesau, gyda'r awdurdod lleol yn cydnabod pwysigrwydd y sector manwerthu i'r economi ranbarthol ehangach. Caiff canol trefi'r tair prif dref, sef Bargod, Coed Duon a Chaerffili, fudd o Reolwr/wraig Datblygu Canol Tref ymrwymedig sy'n cydlynu anghenion strategol a gweithredol y canolfannau rhanbarthol hyn. Ym mis Mawrth 2006, cyhoeddodd Datblygu Busnes Eich Cyfle Chi, sef gweledigaeth ar gyfer datblygu canol trefi yn y prif drefi hyn. Mae gan bob tref ei brand ei hun a chael ei marchnata yn rhagweithiol ar gyfer buddsoddiad ac er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr.
Ym mis Awst 2006 cyflwynwyd system electronig newydd i gyfrif nifer y cerddwyr ym mhob un o'r prif drefi hyn. Footfall, sef arweinwyr yn y farchnad, sy'n gweithredu'r system a phob wythnos caiff y data ei gasglu mewn Mynegai Ymwelwyr, a gaiff ddosbarthu i fanwerthwyr ledled y tair tref. Ar gyfartaledd bydd 45,000 o bobl yn ymweld â Chaerffili bob wythnos, 45,000 o bobl yn ymweld â'r Coed Duon a 15,000 o bobl â Bargod.
I gynorthwyo buddsoddwyr, comisiynwyd yr Ymgynghorwyr Manwerthu blaenllaw CACI i lunio adroddiadau cryno unigol ar y farchnad ar gyfer Caerffili, Coed Duon a Bargod. Defnyddia'r adroddiadau cynhwysfawr hyn system broffilio ACORN i lunio proffil demograffig o'r trefi. Paratowyd mapiau amser gyrru ar gyfer pob un o'r canol trefi.
Mae Mynegai Eiddo Manwerthu electronig ar gael, sy'n cynnwys map o ganol y dref a lluniau o'r holl eiddo gwag yng nghanol trefi'r tair tref. Mae canol trefi wrth wraidd y gymuned ac mae angen cynnig manwerthu cryf ac amrywiol arnynt sy'n cydbwyso prif frandiau'r stryd fawr gyda busnesau annibynnol lleol, gan gynnig dewis ehangach i ddefnyddiwr a chadw hunaniaeth y trefi.
Mae datblygiadau manwerthu newydd cyffrous ar y gweill ar gyfer Caerffili a Bargod.