Safonau Masnach

Mae Safonau Masnach yn bodoli er mwyn sicrhau amgylchedd fasnachu teg a chyfiawn ar gyfer defnyddwyr a masnach a busnes lleol yn y fwrdeistref sirol. Ni ddylai masnach na busnes orfod dioddef cystadleuaeth annheg oddi wrth y rhai sy'n gweithredu y tu allan i'r gyfraith  a ddylai Defnyddwyr gael eu trin yn deg a derbyn yr hyn mae ganddyn nhw hawl iddo.

Rydym yn gorfodi amrywiaeth eang o ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i safonau o ran maint, ansawdd, diogelwch, disgrifiad, prisio, credyd defnyddiwr ac iechyd a lles anifeiliaid fel y ganlyn:

Angen cyngor defnyddiwr?
Mae'r Gwasanaeth Cyngor Defnyddiwr yn ymdrin â 2000 o gwynion bob blwyddyn ac yn cynnig cyngor technegol a / neu gyfreithiol ac ymyriad i drigolion sydd mewn trafodaethau hirwyntog am y nwyddau a  gwasanaethau maent wedi'u prynu.

Eisiau adrodd problem i ni?
Derbynnir gwybodaeth wrth nifer o ffynonellau a chynhelir ymchwiliadau i fasnachu twyllodrus a thoriadau difrifol o'r ddeddfwriaeth. Mae'n hawdd adrodd problem i ni a bydd eich manylion yn aros yn gyfrinachol os yw'n well gennych.

Cyngor busnes ac ymchwiliadau
Beth rydym yn ei wneud i warchod defnyddwyr a sut rydym yn helpu busnesau cyfrifol i elwa.

Nwyddau ffug
Sut i adnabod nwyddau ffug a sut i hysbysu rhywun rydym yn gwybod neu'n amau eu bod yn cyflenwi eitemau ffug.

Gwerthiannau o dan oed
Gwybodaeth a chyngor ar gyfer busnesau ar rwystro gwerthiannau o dan oed a gwirio prawf oedran. Ar gyfer plant 13 – 16.5 mlwydd oed byddwch hefyd yn darganfod gwybodaeth am sut y gallwch ddod yn wirfoddolwr/wraig prawf.

Labeli a chynnwys bwyd
Beth rydym yn ei wneud i sicrhau fod labeli bwyd yn gywir ac yn wir a bod y bwyd sy'n cael ei werthu gyda'r cynhwysion cywir.

Diogelwch cynnyrch
Sut i adrodd nwyddau â nam gyda dolenni i daflenni canllaw a chynnyrch sy'n cael ei alw'n ôl ar hyn o bryd.

Pwysau a mesuriadau
Cyngor cyffredinol ar bwysau a mesuriadau a sut i gwyno os ydych wedi prynu nwyddau y mae eu pwysau neu'u mesuriadau yn ddiffygiol.

Y Gwaharddiad Ysmygu
Gwybodaeth gyffredinol ar y gwaharddiad ysmygu, adrodd ar anufudd-dod a chymorth i roi'r gorau i ysmygu.

Iechyd a Lles Anifeiliaid
Sut rydym yn gorfodi'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid.


A oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?



  Rhowch sylwadau:-
  
Nodwch na fyddwn yn ymateb yn uniongyrchol i sylwadau y gwneir yma.