Mae annog arloesi a menter yn ganolog i'r dasg o lwyddo i atgyfnerthu ac arallgyfeirio'r economi leol yn y dyfodol. Cydnabyddir yn eang y bydd busnesau cartref yn gwneud cyfraniad sylweddol at adfywio, ochr yn ochr â nifer o fuddsoddwyr mewnol sy'n achub ar gyfleoedd busnes rhyngwladol ac yn ymgysylltu â gweddill y byd.
I helpu busnesau lleol i fabwysiadu technolegau newydd a thyfu, mae amrywiaeth o gyngor a chymorth ar gael, p'un a ydych yn masnachu eisoes neu'n ystyried sefydlu busnes. Gall y Tîm Datblygu Economaidd helpu ac fe'i lleolir yng Nghanolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen, Ystrad Mynach lle ceir uned cymorth datblygu busnes a thechnoleg wedi'i chydlynu'n llawn yn yr adeilad. Mae cymorth ar gael o ddod o hyd i'r eiddo cywir i gymorth gyda thechnolegau'r rhyngrwyd a masnachu ar-lein.
Mae'r Tîm yn cynnig amrywiaeth o gymorth grant o ran prosiectau datblygu busnes yn y sector gweithgynhyrchu neu ddarparu gwasanaeth i'r sector gweithgynhyrchu. Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol i'r grantiau a ariennir gan Amcan 1 Ewropeaidd a gall busnesau sy'n symud i mewn i'r fwrdeistref sirol neu'n ehangu ynddi fanteisio arnynt.
Gall busnesau o bob maint neu sector hefyd gael cymorth i gyrraedd Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd am reolaeth amgylcheddol effeithiol drwy leihau'r effaith ar yr amgylchedd a gwella effeithlonrwydd ynni.