Eiddo masnachol

Pafiliwn Oakdale

Mae gan Fwrdeistref Sirol Caerffili bortffolio sylweddol o eiddo a safleoedd busnes i ddiwallu pob angen busnes. Mae'r eiddo yn amrywio o unedau cychwynnol i 200,000 troedfedd sgwâr (18,580 metr sgwâr) gyda lefelau rhentu ffafriol iawn o'u cymharu â lleoliadau eraill ger yr M4.

Ers 2000, mae'r Cyngor wedi nodi'r angen i ehangu ei bortffolio eiddo a darparu safleoedd busnes sy'n addas at dechnolegau newydd yr oes sydd ohoni.  Adeiladwyd y Ganolfan Busnes a Thechnoleg gyntaf ar Barc Tredomen.  Dilynwyd hyn gan ganolfannau swyddfa a thechnoleg eraill ar Barc Busnes Tredomen ac ar Barc Busnes Oakdale.

Mae'r safleoedd cyflogaeth strategol wedi'u lleoli ar hyd coridor Datblygu'r A472 ac ers 1996 mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi dynodi dros 200 erw (80.9 hectar) o dir i'w ddatblygu, gan gynnwys Parc Busnes Oakdale sy'n 170 erw (69.6 hectar).

Mae creu amgylchedd modern ar gyfer sefydlu a thyfu busnesau bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i'r Cyngor. Mae'r Cyngor yn cadw ei ymrwymiad i helpu entrepreneuriaid a busnesau a leolir yn y fwrdeistref sirol i dyfu a datblygu yn fusnesau llwyddiannus. Mae datblygu'r seilwaith hefyd yn ffordd allweddol o sicrhau twf economaidd - gan sicrhau y gall nwyddau, gwasanaethau a phobl symud i mewn ac allan o'r fwrdeistref sirol yn rhydd.


Gyda phwy i gysylltu

  • Datblygu Economaidd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen
  • Parc Busnes Tredomen
  • Ystrad Mynach
  • Hengoed. CF82 7FN
  • Ffôn: 01443 866221
  • Ffacs: 01443 866225
  • Ebostiwch Datblygu Economaidd

A oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?



  Rhowch sylwadau:-
  
Nodwch na fyddwn yn ymateb yn uniongyrchol i sylwadau y gwneir yma.