Gellir diystyru unigolyn sy'n aelod o Gymuned Grefyddol os mai gweddïo, myfyrdod, rhyddid rhag dioddefaint neu addysg yw ei phrif swyddogaeth. Er mwyn cymhwyso, rhaid i'r unigolyn beidio â bod ag incwm (ac eithrio pensiwn cyflogwr) neu gyfalaf ei hun a rhaid iddo fod yn ddibynnol ar y gymuned dan sylw am ei anghenion materol.
Rhaid i'r ffurflen gais gael ei chwblhau gan yr unigolyn sy'n gyfrifol am dalu Treth y Cyngor neu ar ei ran.
NODYN ATGOFFA: Dim ond lle erys UN unigolyn yn gyfrifol ar ôl diystyru'r lleill y gellir rhoi gostyngiad person sengl (25%), e.e. mewn cartref o dri oedolyn mae'n rhaid i ddau fod yn gymwys i gael eu diystyru cyn y gellir rhoi gostyngiad.
Sut i wneud cais
Os byddwch yn gymwys, cysylltwch â ni neu llwythwch ffurflen gais i law.
Gostyngiadau ar gyfer aelodau cymunedau crefyddol (pdf 50kb).
Cwblhewch y ffurflen mewn inc du ac mewn llythrennau bras a'i dychwelyd atom ynghyd ag unrhyw ddogfennaeth ategol.
If Os caiff eich cais ei dderbyn, anfonir rhestr daliadau ddiwygiedig atoch.
NODER: Os bydd eich amgylchiadau'n newid fel na fyddwch â hawl i ostyngiad, RHAID i chi roi gwybod i'r Cyngor cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi cael cosb.