Cludiant a'r strydoedd

Ffordd osgoi Trecelyn

Mae'r Cyngor yn gofalu am y ffyrdd, palmantau a'r goleuadau stryd o fewn 20 milltir sgwâr  bwrdeistref sirol Caerffili.  Mae ein tudalennau cynnal ffyrdd yn cynnwys manylion am y gwaith ffordd bresennol ac am halltu a graeanu ffyrdd y fwrdeistref sirol yn ystod y gaeaf, yn ogystal â manylion ar gyfer Gofal Cwsmer Priffyrdd, felly os ydych yn gweld twll yn y ffordd neu olau stryd nad yw'n gweithio, rhowch wybod i ni. 

Yn ogystal â'n gwaith cynnal a chadw parhaus, rydym hefyd yn rheoli gwaith newydd, megis cynllun ffordd Tredegar Newydd sydd wedi'i gwblhau'n ddiweddar.

Rydym hefyd yn chwarae rôl mewn rheoli a monitro cludiant cyhoeddus lleol, gan gynnwys cludiant ysgol i gartref a'r gwaith newydd cyffrous ar Reilffordd Glyn Ebwy a fydd yn darparu gwasanaeth trên bob awr rhwng Glyn Ebwy a Chaerdydd.

Mae'r problemau ynghylch diogelwch y ffordd, bathodynnau parcio i bobl anabl a rheoli traffig  ond yn ychydig o feysydd lle allwn eich helpu.


A oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?



  Rhowch sylwadau:-
  
Nodwch na fyddwn yn ymateb yn uniongyrchol i sylwadau y gwneir yma.