Mae gan holl adeiladau masnachol 'dyletswydd gofal' o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, i sicrhau fod yr holl wastraff a gynhyrchir yn cael ei drosglwyddo i gludydd gwastraff cofrestredig. Mae'n drosedd gwaredu'ch gwastraff yn anghyfreithlon mewn unrhyw ffordd arall. Gall methu â chydymffurfio â'r ddeddfwriaeth arwain at gosb ariannol.
Rydym yn casglu ac yn gwaredu gwastraff masnachol o dros 2,000 o fusnesau yn yr ardal. Rydym hefyd yn darparu casgliad ailgylchu 'am ddim' ar gyfer cardbord, gwydr a chaniau.
Biniau masnachu
Gwybodaeth am ein prisiau a chais i ni gasglu'ch gwastraff masnachol.
Casglu gwastraff masnachol
Adrodd wrthym nad yw eich gwastraff masnachol wedi'i gasglu.
Gwaredu gwastraff peryglus
Darganfod yr hyn sy'n cael ei ystyried yn wastraff peryglus a'ch dyletswydd gofal i'w waredu'n ddiogel o dan y Rheoliadau Gwastraff Peryglus newydd.
Casgliadau masnachol arbennig
Gofyn i wastraff ychwanegol neu eitemau mawr gael eu casglu o'ch eiddo.