Llyfrgelloedd

Croeso i Dudalennau Gwe Gwasanaeth Llyfrgelloedd Caerffili. Drwy ymuno â'ch llyfrgell leol, gallwch fanteisio ar rwydwaith o 19 o lyfrgelloedd, 4 llyfrgell symudol, llyfrau, fideos, cryno-ddisgiau, DVDau ac ystod gynyddol o wasanaethau gwybodaeth gyfrifiadurol. Mae gan ein llyfrgelloedd dros 190 o gyfrifiaduron a mynediad cyflym am ddim i'r Rhyngrwyd.

Llyfrgelloedd lleol
Mae gennym 19 o lyfrgelloedd yn cynnig ystod eang o wasanaethau i bawb yn y gymuned.

Ymuno â'r llyfrgell
Sut i ymuno a beth y bydd angen i chi ddod gyda chi. Pam na wnewch chi archebu cerdyn SMART newydd ar gyfer ffordd gyflymach a hawsach o gael mynediad i gyfleusterau yn eich llyfrgell leol?

Catalog y Llyfrgell
Cyfleuster ar-lein sy'n eich galluogi i adnewyddu eich llyfrau a chadw llyfrau yn eich cartref eich hun.

Ffioedd a chostau llyfrgell
Er y gallwch ymuno, benthyca llyfrau a defnyddio ein cyfrifiaduron am ddim rydym yn codi tâl am rai gwasanaethau fel archebu eitemau, llogi gemau cyfrifiadurol ac eitemau a ddychwelir yn hwyr.

Gwasanaeth llyfrgelloedd ysgolion
Gwybodaeth am sut mae'r gwasanaeth llyfrgelloedd yn cefnogi ysgolion lleol.

Cyfrifiaduron mewn llyfrgelloedd
Rydym yn darparu mynediad am ddim i gyfrifiaduron a'r Rhyngrwyd Band Eang yn ein holl lyfrgelloedd.

Adnoddau gwybodaeth ar-lein
Dolenni i adnoddau ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Llyfrau a darllen
Manylion am y llyfrau sy'n gwerthu orau ar y pryd a sut i awgrymu y dylem brynu llyfr penodol.

Plant a phobl ifanc
Gweithgareddau darllen i bobl ifanc, cymorth i ddewis llyfrau a sut y gall eich llyfrgell leol helpu gyda gwaith cartref.

Eich sylwadau

Rydym yn gwerthfawrogi eich sylwadau a'ch awgrymiadau am ein gwasanaeth llyfrgelloedd. Cymerwch ychydig funudau i ddweud wrthym beth rydych yn ei hoffi neu nad ydych yn hoffi am y gwasanaeth a pha syniadau sydd gennych am sut y gallai'r gwasanaeth llyfrgelloedd wella yn y dyfodol.


Gyda phwy i gysylltu

A oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?



  Rhowch sylwadau:-
  
Nodwch na fyddwn yn ymateb yn uniongyrchol i sylwadau y gwneir yma.