Y Gymuned a Byw

Blodyn

Os ydych yn byw ym mwrdeistref sirol Caerffili dyma le byddwch yn darganfod popeth rydych am ei wybod am fywyd yn y gymuned - o gyngor diogelwch cymunedol i ddigwyddiadau lleol, mannau addoli, sut i gofrestru genedigaeth, trefnu seremoni enwi sifil, a chael copïau o dystysgrifau geni.

Os ydych am wneud ymchwil i'ch siart achau, darganfod lleoliad ar gyfer seremonïau priodas neu bartneriaeth sifil, cymryd rhan yn y broses cynllunio gymunedol, darganfod pa grantiau sydd ar gael i grwpiau cymunedol neu ddarganfod beth mae'r cyngor yn ei wneud er mwyn lleihau troseddu a'r ofn o droseddu yn y bwrdeistref sirol, dylech fedru ddod o hyd i'r wybodaeth yma.

Gallwch hefyd dadlwytho copi o Arweiniad a Chyfeirlyfr Cymunedol 2008, sy'n cynnwys gwybodaeth am y sefydliadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol ac asiantaethau eraill ar draws y bwrdeistref sirol.

 


A oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?



  Rhowch sylwadau:-
  
Nodwch na fyddwn yn ymateb yn uniongyrchol i sylwadau y gwneir yma.