Ysbwriel, gwastraff ac ailgylchu

Bob blwyddyn mae cartrefi ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn taflu dros 80,000 tunnell o sbwriel i ffwrdd. Mae hwn yn hafal i tua 1 tunnell i bob eiddo.

Ein bwriad yw cynyddu ailgylchu a lleihau tirlenwi, drwy ddarparu gwasanaethau fel cynlluniau casglu 'bocs gwyrdd' bob pythefnos a 'gwastraff gardd' ymyl y palmant.

Casgliad gwastraff tai
Darganfyddwch pryd bydd eich bin yn cael ei wagio, adroddwch am gasgliad sydd wedi ei golli a gwnewch gais am gymorth i gael eich bin i ymyl y palmant.

Casgliad ailgylchu
Gofynnwch am focs ailgylchu, darganfyddwch pryd bydd eich ailgylchu yn cael ei gasglu neu adroddwch am gasgliad sydd wedi ei golli.  Hefyd darganfyddwch mwy am ein cynllun cymhelliad ailgylchu.

Casgliad gwastraff gardd
Darganfyddwch pryd bydd eich gwastraff gardd yn cael eu casglu neu gofynnwch am gasgliad o wastraff gardd swmpus.

Casgliad eitemau swmpus
Rydym yn darparu gwasanaeth casglu am ddim ar gyfer celfi swmpus nad ydych eu hangen ar gyfer eich cartref.

Amwynderau Dinesig
Rydym yn gweithredu 6 Safle Amwynder Dinesig a 29 Safle Ailgylchu Bach. Darganfyddwch pa ddeunyddiau gallwch eu gwaredu ac ym mhle.

Bin olwynion
Gofynnwch am fin olwynion newydd neu ychwanegol a darganfyddwch beth y dylech ac na ddylech roi yn eich bin olwynion.

Pam ailgylchu?
Darganfyddwch beth y gallwch wneud i ddiogelu ein hamgylchedd drwy ail-ddefnyddio, lleihau, ailgylchu ac atgyweirio.

Compostio cartref
Rydym yn cynnig biniau compost i'r cartref cymorthdaledig ar werth.Darganfyddwch sut i brynu un a'r buddion o gompostio adref.

Ailgylchu yn yr ysgolion
Gwybodaeth am y mentrau rydym yn rhedeg yn ein hysgolion i godi ymwybyddiaeth ar faterion gwastraff ac ailgylchu.


Gyda phwy i gysylltu

A oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?



  Rhowch sylwadau:-
  
Nodwch na fyddwn yn ymateb yn uniongyrchol i sylwadau y gwneir yma.