Ymgynghoriad ysgol newydd Abertyswg a Phontlotyn
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.
Mae'r ddogfen ymgynghori yn egluro cynnig ysgol 3-18 Rhymni y gobeithir ei chyflwyno o 1 Ionawr 2018.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu a sefydlu dulliau arloesol o addysgu a dysgu. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau gwell canlyniadau trwy gynyddu parhad mewn dysgu disgyblion a strategaeth gydgysylltiedig at ddysgu, gofal bugeiliol a chymorth.
Cynhaliwyd cyfarfod ym mis Mawrth 2016 gyda chynrychiolwyr o'r canlynol:
- Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Abertyswg, Ysgol Gynradd Pontlotyn ac Ysgol Gyfun Rhymni
- Aelodau'r Cyngor Lleol
- Uwch swyddogion CBSC
Roedd y rhai oedd yn bresennol yn cefnogi'r cynnig i sefydlu ysgol 3 – 18 Rhymni.
Er mwyn symud y cynnig hwn ymlaen, mae'n ofynnol i'r Cyngor gynnal proses ymgynghori statudol. Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn rhoi cyfle i randdeiliaid i gyfrannu at y broses hon. Dyma eich cyfle i gyflwyno eich sylwadau i'r Cyngor i'w hystyried cyn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen ymhellach.
Digwyddiadau ymgynghori
Bydd y broses ymgynghori yn cael ei chynnal dros gyfnod o 6 wythnos rhwng 3 Ionawr a 16 Chwefror 2017. Mae yna nifer o ddigwyddiadau ymgynghori lle bydd y cynnig yn cael ei esbonio ac yn eich galluogi i ofyn cwestiynau. Gweler y manylion isod:
Ysgol Gyfun Rhymni - Dydd Llun 16eg Ionawr 2017
- Sesiynau Galw i Mewn ar gyfer disgyblion a staff 1pm i 3pm
- Rhieni a gofalyddion 3pm i 5pm
- Cyfarfod y Corff Llywodraethu a’r cyhoedd/y gymuned 5pm i 7pm
Ysgol Gynradd Pontlotyn - Dydd Mercher 18fed Ionawr 2017
- Sesiynau Galw i Mewn ar gyfer disgyblion a staff 1pm – 3pm
- Rhieni a gofalyddion 3pm i 5pm
- Cyfarfod y Corff Llywodraethu a’r cyhoedd/y gymuned 5pm i 7pm
Ysgol Gynradd Abertyswg - Dydd Llun 30ain Ionawr 2017
- Sesiynau Galw i Mewn ar gyfer disgyblion a staff 1pm – 3pm
- Rhieni a gofalyddion 3pm i 5pm
- Cyfarfod y Corff Llywodraethu a’r cyhoedd/y gymuned 5pm i 7pm
Dweud eich dweud
Gallwch ymateb drwy gyfrwng y ffurflen ymateb isod, drwy e-bost ar spragj@caerffili.gov.uk neu yn ysgrifenedig, i: Keri Cole, Prif Swyddog Addysg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG.
Nodwch os ydych yn dymuno derbyn copi o'r adroddiad ymgynghori a gynhyrchir yn dilyn y broses ymgynghori.
Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn gofyn am eich barn, ac edrychaf ymlaen at dderbyn eich sylwadau ar y cynnig cyffrous.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 16 Chwefror 2017.