FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Arolwg Cartrefi

Canlyniadau Arolwg Cartrefi 2017

Mae'r mwyafrif o drigolion ar draws bwrdeistref sirol Caerffili yn hapus gyda'r gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor, yn ôl canfyddiadau arolwg boddhad mawr.

Mae'r Arolwg Cartrefi yn holiadur dwy flynedd wedi'i chynllunio i gasglu adborth am y cyngor a'i wasanaethau. Dadansoddwyd canfyddiadau arolwg 2017 ac mae'r adborth a gafwyd wedi bod yn gadarnhaol iawn ar draws ystod o feysydd pynciau. Ymhlith y meysydd allweddol a gynhyrchodd y lefelau boddhad uchaf mae ailgylchu, llyfrgelloedd, parciau gwledig, gwasanaethau bws a Newsline!

Yr ystadegyn mwyaf trawiadol oedd bod 74% o'r ymatebwyr yn fodlon neu'n fodlon iawn gyda'r gwasanaeth yn gyffredinol a ddarperir gan y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Dave Poole, Arweinydd y Cyngor, "Mae adborth gan drigolion yn bwysig iawn i ni gan fod angen barn pobl arnom i'n helpu i lunio ein gwasanaethau yn y dyfodol. Mae’r adborth cadarnhaol a gawsom yn dilyn yr Arolwg Cartrefi yn galondid mawr inni a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd rhan.

Cynhwyswyd yr Arolwg Cartrefi 4 tudalen yn Newsline a'i bostio i bob cartref ar draws y fwrdeistref sirol. Hefyd, roedd gwobr o £250 i annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan, a’r enillydd ffodus oedd Tim Jarrett o Fargod.

Mae canlyniadau'r arolwg llawn i'w gweld isod:-

Sut fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei defnyddio gan Uned Gyfathrebu cyngor bwrdeistref Caerffi li. Bydd y barnau a gyfl wynir gan yr holl ymatebwyr yn cael eu cadw am 4 blynedd a byddent yn cael eu cymharu â’u defnyddio i gynhyrchu adroddiad cryno.

Bydd yr adroddiad cryno yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwerthusiad ac ailfodelu ein gwasanaethau lle bo angen a gall gael ei gyhoeddi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffi li.

Arolwg Cartrefi 2015

Pa mor fodlon ydych chi gyda'r Cyngor a gwasanaethau eraill yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili? Pa wasanaethau sydd angen gwelliant?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn benderfynol, mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, i wella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ichi ac mae wedi ymrwymo i adfywio'r ardal..

Canlyniadau blaenorol

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd ymgynghoriadau ac arolygon (PDF)
Hysbysiad preifatrwydd arolwg cartrefi (PDF)