FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Cwynion am un o wasanaethau'r cyngor

Dywedwch wrthym ni beth yw eich barn chi am ein gwasanaeth ni – rydyn ni bob amser yn falch i glywed gennych chi. Os ydych chi eisiau dweud wrthym ni am rywbeth rydyn ni wedi ei wneud, os oes rhywbeth rydych chi eisiau rhoi sylwad amdano neu os rydych chi eisiau gwneud cwyn ffurfiol, bydd y dudalen hon yn dweud wrthych chi sut i wneud hynny.

Gwneud cwyn, sylw neu roi canmoliaeth >

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodi i roi gwybod am rywbeth, ymgeisio am rywbeth neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych chi am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam chi am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym ni!

Y broses gwyno

Rydyn ni'n delio â chwynion gan ddefnyddio proses ddau gam, fel a ganlyn:

Cam 1. Delio â'ch cwyn chi

Beth ddylech chi ei wneud os nad ydych chi’n fodlon gyda'r gwasanaeth rydych chi wedi'i gael?

Dechreuwch drwy gysylltu â'r person a ddarparodd y gwasanaeth neu ofyn am gael siarad â'i reolwr. Gallwch chi ddatrys y rhan fwyaf o broblemau fel hyn.

Os nad ydych chi’n siŵr pwy y dylech chi gysylltu ag ef i wneud cwyn, e-bostiwch ni ar  cwynion@caerffili.gov.uk neu ffonio ein rhif cyswllt cwynion canolog ni ar 01443 864221. Fel arall, gallwch chi ofyn am gopi o'n ffurflen ni gan y person rydych chi eisoes mewn cysylltiad ag ef, dweud wrthyn nhw eich bod chi am i'ch pryderon chi gael eu trin yn ffurfiol neu ysgrifennu atom ni: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Ar gyfer sylw y Swyddog Cwynion Corfforaethol, d/l y Gwasanaethau Cyfreithiol, Tŷ Penallta, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG.

Cam 2. Ymchwiliad ffurfiol

Os nad yw eich cwyn chi yn cael ei datrys ac rydych chi’n teimlo eich bod chi am gwyno ymhellach, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen ar-lein uchod cysylltu â'r swyddog cwynion ar 01443 864221, drwy e-bost at  cwynion@caerffili.gov.uk neu drwy'r post yn y cyfeiriad a nodir uchod.

Pa mor hir fydd yn ei gymryd?

Byddwn ni’n cydnabod eich cwynion ysgrifenedig chi o fewn 5 diwrnod gwaith. Byddwn ni’n ceisio datrys eich cwyn chi o fewn 20 diwrnod gwaith. Os nad yw hynny'n bosibl, byddwn ni’n dweud wrthych chi pam a pha mor hir y bydd yn ei gymryd.

Os byddwn ni’n ymchwilio i'ch cwyn chi, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi beth rydyn ni wedi'i ganfod yn unol â'ch dull cyfathrebu dewisol chi. Os bydd angen, byddwn ni’n cynhyrchu adroddiad manwl. Byddwn ni’n esbonio sut a pham rydyn ni’n dod i'n casgliadau ni.

Os byddwn ni’n canfod ein bod ni wedi gwneud camgymeriad, byddwn ni’n dweud wrthych chi beth ddigwyddodd a pham. Os byddwn ni’n canfod bod nam yn ein systemau ni neu'r ffordd rydyn ni’n gwneud pethau, byddwn ni’n dweud wrthych chi beth ydyw a sut rydyn ni’n bwriadu newid pethau i'w atal rhag digwydd eto. Os ydyn ni wedi gwneud camgymeriad, byddwn ni bob amser yn ymddiheuro

Os ydych chi’n dal yn anhapus

Os ydych chi’n dal yn anhapus, gallwch chi wneud cwyn i:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203
E-bost: ask@ombudsman-wales.org.uk
www.ombudsman-wales.org.uk
 

Cysylltwch â ni

Tudalennau cysylltiedig

Cwynion gwasanaethau i oedolion