Mwy o wybodaeth am ebostio ni

Nodwch efallai y bydd angen i ni ystyried datgelu gwybodaeth a dderbyniwn drwy e-bost os oes angen ymateb i gais dan ddeddfwriaeth hawliau gwybodaeth, er enghraifft cais am ryddid gwybodaeth.

Rydym yn gwirio firws yr holl negeseuon e-bost rydym yn eu hanfon. Fodd bynnag, dylech gymryd yr holl ragofalon angenrheidiol i sicrhau bod y negeseuon e-bost a gewch yn ddiogel, er enghraifft drwy ddefnyddio gwirydd firws cyfoes.

Dylech gymryd unrhyw ragofalon angenrheidiol wrth benderfynu sut i gysylltu â ni. Pe byddai'n well gennych ddefnyddio e-bost wedi'i hamgryptio, yn enwedig os yn anfon gwybodaeth sensitif i ni, mae croeso i chi wneud hynny. Rydym yn defnyddio 'Transport Layer Security' (TLS) i amgryptio a diogelu traffig e-bost. Os nad yw'ch gweinydd post yn cefnogi TLS, dylech fod yn ymwybodol na fydd unrhyw negeseuon e-bost rydych chi'n eu hanfon atom yn cael eu hamddiffyn.

Wrth drosglwyddo mathau penodol o wybodaeth bersonol neu gyfrinachol fel arall, bydd y Cyngor yn anfon negeseuon e-bost wedi'i amgryptio gan ddefnyddio meddalwedd gan 'Egress Software Technologies'. I ddarllen cynnwys negeseuon e-bost Egress, bydd angen i chi ddilyn y cyfarwyddiadau yn ein e-bost er mwyn sefydlu Cyfrif Darllenydd 'Switch Egress'. Mae hwn yn gofrestriad unwaith ac am byth, yn rhad ac am ddim, a bydd hefyd yn eich galluogi i anfon negeseuon e-bost wedi'i amgryptio yn ôl atom ni.

Rydym ond yn derbyn ebyst hyd at 25MB mewn maint, gan gynnwys atodiadau. Os oes angen ichi anfon mwy o wybodaeth atom ni na hyn, lledaenwch unrhyw atodiadau dros fwy nag un e-bost neu cysylltwch â ni i drefnu trosglwyddo ffeil ddiogel.

Rydym yn monitro, ac hefyd gallem atal negeseuon e-bost a anfonir atom. Gwnewch yn siŵr nad yw unrhyw negeseuon e-bost a anfonwch atom yn cynnwys unrhyw gynnwys anghyfreithlon neu anweddus, ac eithrio'r hyn y mae angen i chi ei hanfon atom yn ein rôl fel awdurdod lleol.