Mae cyngor bwrdeistref sirol Caerffili'n ymroddedig i wneud ei safle we mor hygyrch â phosib i ddefnyddwyr sydd ag anableddau, gan gynnwys defnyddwyr a all fod yn ddall neu â nam ar eu golwg.
Rydym yn gweithio i wella'r nodweddion hygyrchedd ac yn croesawu'ch syniadau a sylwadau. Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau hygyrchedd neu dechnegol pan yn defnyddio'r safle we, e-bostiwch: cymraeg@caerphilly.gov.uk
Mae dyluniad ein safle we yn cynnwys nifer o nodweddion hygyrchedd gan gynnwys:
- Cyngor ar bori'r opsiynau o hygyrchedd.
- Dyluniad cyffredin drwyddi draw yn hytrach na darparu tudalennau testun yn unig i ddefnyddwyr anabl, er mwyn i meintiau ysgrifen a lliwiau gael eu haddasu i anghenion y defnyddwyr.
- Sicrhau bod gan yr holl ddelweddau a ddefnyddir yn ein safleoedd y disgrifiadau ysgrifen gwahanol priodol ("ALT texts"), fel sydd angen gan ganllawiau hygyrchedd Gwe cydnabyddedig yn genedlaethol.
- Pob Botwm cyfeirad graffigol â label ALT tebyg.
- Rydym yn osgoi defnyddio fframau drwyddi draw safle we'r cyngor.
Bysellau
Mae gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn defnyddio safon bysellfwrdd defnydd hawdd Llywodraeth y DU er mwyn caniatáu llywio ar y bysellfwrdd i dudalennau penodol ar y safle. Gallwch ddefnyddio'r canlynol:
| Tudalen | Bysell |
| Ewch i'r Cynnwys | S |
| Hafan | 1 |
| Map y safle | 3 |
| Chwilio | 4 |
| Cwestiynau Cyffredin | 5 |
| Ymwadiad | 8 |
| Cysylltwch â ni | 9 |
| Datganiad Hygyrchedd / Bysellau | 0 |
I gychwyn y bysellau priodol, dilynwch y canllawiau canlynol (ar gyfer y system gweithredu Windows):
- Os ydych yn defnyddio Microsoft Internet Explorer, daliwch lawr y fysell 'Alt', pwyswch y fysell briodol uchod ac yna pwyswch y fysell 'Return'.
- Os ydych yn defnyddio Netscape Navigator neu Firefox, daliwch lawr y fysell 'Alt' ac yna pwyswch y fysell briodol uchod.
Efallai bydd rhaid i chi ddefnyddio cyfuniadau gwahanol ar gyfer porwyr gwe ar systemau gweithredu eraill.
Opsiynau Hygyrchedd Brigbori
Rheoli testun a lliwiau yn eich porwr gwe.
Gallwch ddewis maint ffont, steil a lliwiau, a lliwiau blawndir a chefndir eich tudalennau gwe sydd ar ddangos ar sgrîn eich cyfrifiadur, hyd yn oed os ydy awdur y dudalen we eisioesd wedi dewis y rhain. Gallwch hefyd ddewis y lluw a ddefnyddir i ddynodi cysylltiadau mewn tudalennau gwe, neu liw arbennig i gysylltiadau a ddefnyddir dim ond pan fydd y llyugoden yn llusgi dors y cyswllt.
Mae hwn yn ddefnyddiol os oes gennych golwg isel, neu angen ffontiau mwy, neu angen lliwiau cyferbyniad uchel. Gallwch osod Internet Explorer i ddefnyddio lliwiau a ffontiau yr ydych yn eu dewis, eich lliwiau a ffontiau Windows diofyn, neu'r dewisiadau yr ydch yn eu dewis ar eich tudalen steil eich hun.
Os ydych yn defnyddio Internet Explorer neu borwyr Netscape i edrych ar y Rhyngrwyd, bydd y canllawiau canlynol yn eich galluogi i chwyddo maint y testun a rheoli'r lliwiau ar eich sgrîn.
Microsoft Internet Explorer i Gyfrifiadur
- Agorwch eich Porwr Gwe Internet Explorer.
- Dewisiwch 'Tools' o'r ddewislen ar dop eich ffenest.
- O'r opsiynau sy'n ymddangos, dewisiwch 'Internet options…'
- Cliciwch ar y allwedd tab 'General'.
- Cliciwch ar y botwm 'Accessibility'.
- I newid maint eich ffont, dewisiwch bocsgwirio sydd wedi'i farcio 'Ignore font sizes specified on Web pages'.
- I gael gwared ar gefndir a lliwiau ffont, dewisiwch y bocsgwirio sydd wedi'i farcio 'Ignore coloyrs specified on web pages'.
- Cliciwch OK (ac eto os oes rhaid).
- Dewisiwch 'View' o'r ddewislen ar dop eich ffenest.
- O'r opsiynau sy'n ymddangos, dewisich 'Text Size'.
- Dewisiwch maint y testun yr hoffech ei gael.
Microsoft Internet Explorer i Apple Mac
- Agorwch eich Porwr Gwe Internet Explorer.
- Dewisiwch y ddewislen 'edit' ar dop eich ffenest.
- O'r ddeislen opsiynau sy'n ymddangos, dewisiwch "preferences".
- Cliciwch ar "web content".
- Di-diciwch y botwm sydd wedi'i farcio "show style sheets".
- Dychwelwch i'r rhestr o 'preferences'.
- Cliciwch ar "borwr gwe".
- Dewisiwch "language/fonts".
- Dewisiwch maint y ffont yr hoffech ei gael.
Cyfarwyddiadau i ddefnyddwyr Netscape Navigator
Testun:
- Dewisiwch 'Edit' o'r ddewislen ar dop y ffenest a dewisiwch 'Preferences'.
- Agorwch yr 'Appearance group' a chliciwch ar y categori 'Fonts'.
- Nesaf at 'For the ecnoding' fe ddylai 'Western' ymddangos i ddweud wrth y cyfrifiadur pa fath o lythrennau a symbolau i'w defnyddio. Ar 'Size' dewisiwch 18.
- Nesaf at y maes 'Variable Width Font' mae bocs cwympo lawr: dewisiwch 'Arial'. Dylai'r bocs 'Fixed Width Font' yn barod ddarllen 'Courier New'. Ar 'Size' dewisiwch 18.
- I anwybyddu'r ffontiau a ddefnyddiwyd gan arlunydd y dudalen we, dewisiwch 'Use my default fonts overriding document specified fonts'/.
- Cliciwch 'OK'.
Lliwiau:
- Dewisiwch 'Edit' o'r ddewislen ar dop y ffenest a dewisiwch 'preferences'.
- Agorwch yr 'Appearance group' a chliciwch y category 'Colours'.
- Dewisiwch botwm lliw i newid lliwiau'r testun, cefndir, cysylltiadau sydd heb eu hymweld, neu cysylltiadau sydd wedi eu hymweld.
- I anwybyddu'r ffontiau a ddefnyddiwyd gan arlunydd y dudalen we, dewisiwch 'Use my default fonts overriding document specified fonts'/.
- Cliciwch 'OK'.
Testunau Alt (Labeli Alt)
Os ydych yn profi problemau brigbori ein safle gan ddefnyddio Labelau Alt:
- Agorwch eich Porwr Gwe Internet Explorer.
- Dewisiwch y ddewislen 'tools' o dop eich ffenest.
- O'r opsiynau sy'n ymddangos, dewisiwch 'Internet options…'
- Cliciwch ar yr allwedd tab 'Advanced'.
- Cliciwch ar y botwm sydd wedi'i farcio 'Accessibility'.
- O dan y bennawd 'Accessibility' - ehangwch testun ALT. Am ddelweddau cliciwch yn y bocs nes i dic ymddangos.
- Cliciwch OK.