Dewis Ystrad Mynach

Mae canol tref Ystrad Mynach yn cael ei hadnabod yn lleol fel ‘y pentref’ ac mae'n ymfalchïo yn ei ymdeimlad o gymuned, gan gynnig cymysgedd o fusnesau annibynnol ynghyd â manwerthwyr mawr.

Mae Ystrad Mynach yn hawdd ei gyrraedd ar y bws ac yn y car, ac mae'n cynnig cysylltedd rhagorol â phrif lwybrau trafnidiaeth – dim ond 30 munud o'r M4, a mynediad rhwydd i'r A470 ac A465 Ffordd Blaenau'r Cymoedd. Mae gorsaf drenau ar gyrion y dref, sy'n caniatáu i gymudwyr gyrraedd Caerdydd mewn 30 munud a theithio ymlaen i ddinasoedd mawr ledled y Deyrnas Unedig. 

Ewch i'n hadran drafnidiaeth a pharcio sy'n cynnwys gwybodaeth am fysiau a thacsis a manylion am y meysydd parcio sydd ar gael yng Rhisga.

Mae trefn canol y dref yn creu canolbwynt manwerthu clir, sy'n cynnwys manwerthwyr annibynnol bach ynghyd â chymysgedd o wasanaethau fel siopau trin gwallt, llyfrgell, eglwysi a swyddfa bost. Mae dwy archfarchnad ar gyrion canol y dref gyda chysylltiadau da i gerddwyr â'r stryd fawr gerllaw. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae sawl prosiect allweddol wedi trawsnewid yr ardal, gan gynnwys pencadlys y Cyngor, adeilad newydd Ysbyty Ystrad Fawr a'r Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon, yn agos at gampws Coleg y Cymoedd sydd â dros 13,000 o fyfyrwyr.

Mae Cyngor Cymuned Gelligaer yn cynorthwyo llawer o fentrau'r dref yn weithredol, ynghyd â rhaglen ddigwyddiadau'r Cyngor sy'n digwydd ledled canol y dref yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys Ffair y Gwanwyn a Ffair y Gaeaf. Mae'r manylion am raglen ddigwyddiadau'r Cyngor ar gael yma.

Mae'r manylion am raglen ddigwyddiadau'r Cyngor ar gael ar wefan Croeso Caerffili.

Mae'r ardal gyfagos yn cynnig nifer o weithgareddau hamdden, gan gynnwys dosbarthiadau ffitrwydd a chyfleusterau chwaraeon yng Nghanolfan Hamdden Sue Noake. Gall ymwelwyr fynd am dro o amgylch Parc Ystrad Mynach, sydd wedi ennill Gwobr y Faner Werdd, ac mae Parc Gwledig Parc Penallta yn cynnig golygfeydd godidog ac yn gartref i'r cerflun pridd enwog, Sultan y merlyn pwll glo.

Mae Wi-Fi am ddim wedi'i gyflwyno'n ddiweddar ledled canol y dref, gydag ymwelwyr yn gallu cysylltu â'r rhwydwaith ‘FreeCCBCWifi’.

Ap Tref Glyfar - Dyddiad lansio 25 Mai 2023

Mae Ystrad Mynach yn dref smart. Lawrlwythwch yr ap ‘VZTA Smart Towns’ i archwilio Ystrad Mynach yn eich llaw a darganfod beth sydd ar gael yn y dref! Siopa, gwybodaeth am fusnesau a chynnyrch, dod o hyd i'r anrheg berffaith neu le i fwyta, atyniadau i'w gweld a lleoedd i ymweld â nhw – mae ‘VZTA’ yn dod â Ystrad Mynach at ei gilydd, ac yn ei gwneud hi'n gyflym a hawdd i chi ei darganfod a'i harchwilio.

Lawrlwytho VZTA

Tîm Rheoli Canol Trefi

Os hoffech chi drafod cyfleoedd busnes yng Nghanol Tref Ystrad Mynach, cysylltwch â'r Tîm Rheoli Canol Trefi.

choose-the-high-street-cy.JPG

Cysylltwch â ni