Next

Ym mwrdeistref sirol Caerffili mae ardaloedd gwledig bob amser lai na 10 munud i ffwrdd oddi wrthoch chi. A gan fod tri chwarter y sir naill ai'n goed, yn dir amaeth, yn dir comin neu'n fan gwyrdd, mae digon o fywyd gwyllt i'w ddarganfod. Yn disgwyl amdanoch chi mae coedwigoedd sy'n fôr o glychau’r gog a chân yr adar, cartrefi arbennig i löynnod byw prin a gweirgloddiau cynnes sy'n llawn gwenyn.

Ein hardaloedd arbennig ar gyfer bywyd gwyllt

Mae llawer o'n mannau gwyrdd yn cael eu rheoli er lles bywyd gwyllt yn ogystal â phobl, ond mae ganddon ni rai safleoedd sydd wedi cael eu dynodi'n arbennig oherwydd eu gwerth bioamrywiaeth. Rhain yw ein Gwarchodfa Natur Genedlaethol yng Nglaswelltiroedd Aberbargod a'n 4 Gwarchodfa Natur Leol yn Nolydd Cwmllwydrew, Dolydd y Tir Gwastad, Graig Goch, Dolydd y Parc Coffa yn ogystal a Chors Penallta. Mae modd i chi ymweld â'r holl warchodfeydd hyn yng Nghaerffili. Mae llawer o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yma hefyd sydd wedi cael eu dynodi am werth eu bywyd gwyllt.

Dilynwch y dolenni i gael rhagor o wybodaeth am y safleoedd hyn lle gallwch weld canllaw byr am bwysigrwydd y safleoedd. Mae'r holl safleoedd wedi'u gwarchod gan y gyfraith ac maen nhw'n cael eu rheoli gan yr adran Mannau Gwyrdd er mwyn hyrwyddo'u bioamrywiaeth. Os byddwch yn penderfynu ymweld â nhw, dylech gadw at y llwybrau, peidio â gollwng sbwriel a chadw cŵn ar dennyn bob amser; mae'n bosib na fydd y llwybrau a'r cyfleusterau yn yr ardaloedd hyn wedi'u datblygu gystal â'n mannau gwyrdd eraill. Llefydd ar gyfer bywyd gwyllt yw'r rhain, nid ar gyfer byw'n wyllt!

Cymryd rhan

Os ydych chi'n mwynhau bywyd gwyllt a diddordeb penodol yn eich bioamrywiaeth lleol, mae angen eich cymorth chi arnom. Ydych chi'n gwybod am ddôl dda o flodau gwylltion yn lleol? Rydyn ni'n chwilio am enghreifftiau da ar gyfer ein prosiect Banc Hadau Lleol, felly os ydych chi'n ymwybodol o un, cysylltwch â ni. Ydych chi wedi gweld unrhyw rywogaethau prin yn y fwrdeistref sirol? Rydyn ni bob amser yn awyddus i glywed gennych chi, ac mae ein rhestr o Rywogaethau Prin yn nodi'r rhai rydyn ni'n fwyaf pryderus yn eu cylch.

A fyddai gennych ddiddordeb mewn ymuno â Phartneriaeth Bioamrywiaeth Caerffili? Grŵp brwdfrydig ac ymroddedig o weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy'n gweithio ar y cyd i ofalu am ein bioamrywiaeth lleol yw'r Bartneriaeth. Gyda'i gilydd, maen nhw wedi cynhyrchu ac adolygu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol bwrdeistref sirol Caerffili. Gallwch ymuno â'r bartneriaeth fel aelod unigol neu gynrychiolydd ar ran grŵp. Does dim angen cymwysterau arnoch chi, dim ond brwdfrydedd tuag at fywyd gwyllt! Cynhelir cyfarfodydd nos bob chwarter yn ogystal â digwyddiadau, arolygon a diwrnodau hyfforddiant (er enghraifft, sut i adnabod llygod y dŵr). Allwch chi gynnig cymorth mwy ymarferol? Gallwch hefyd ein cynorthwyo ni ar ddiwrnodau cadwraeth lle rydyn ni'n gofalu am ein mannau arbennig er lles bywyd gwyllt. Does dim angen bod yn aelod o'r Bartneriaeth - rhowch wybod i ni os ydych chi am ddod fel bod digon o offer ar eich cyfer!

Os hoffech ragor o wybodaeth am ein mannau ar gyfer bywyd gwyllt, am fioamrywiaeth y fwrdeistref sirol neu os ydych chi am roi gwybod am rywogaeth prin rydych chi wedi'i gweld, cysylltwch â'r Tîm Bioamrywiaeth.

Gwybodaeth Gyswllt

Y Tîm Bioamrywiaeth, Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod, CF81 8AB

Ffôn: 01443 866615 

E-bost: cefngwlad@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir