Rhandiroedd

Os ydych am roi cynnig ar arddio ac yn ysu am awyr iach a bwyd ffres, beth am rentu rhandir?

Mae rhyw 80 o safleoedd rhandir ledled y fwrdeistref sirol, gyda dros 2000 o leiniau yn cael eu trin. Mae cymorth ar gael gan gymdeithasau lleol a chenedlaethol ac maen nhw’n cynnig cyngor arbenigol ar gyfer garddwyr newydd a hadau, gwrtaith a chompost am bris rhesymol.

Rhentu rhandir

Gweinyddir rhandiroedd Bwrdeistref Sirol Caerffili gan:

  • Ffederasiwn Rhandiroedd Cwm Rhymni (RVAF) – cysylltwch David Rees 01443 837499 or Mr Reg Carroll 01443 833775/07832028216 email carrollr@sky.com
  • Ar gyfer rhandiroedd yn hen ardal Islwyn – cysylltwch â’r Gwasanaethau Parciau ar 01495 235473 / 01443 875128 neu e-bostiwch JONESAM1@caerphilly.gov.uk i gael manylion cyswllt ysgrifenyddion y rhandiroedd.

Costau rhentu rhandir

Mae lleiniau yn cael eu mesur mewn PERC, hen fesur traddodiadol. Mae PERC yn 25 metr sgwâr neu 30.25 llathen sgwâr. Mae’r rhan fwyaf o leiniau rhwng 125 metr sgwâr (5 Perc) a 250 metr sgwâr (10 Perc).

Mae cost rhentu rhandir yn amrywio a’r pwyllgor sy’n rheoli’r safle sy’n ei bennu.

Y buddion a ddaw o rentu rhandir

  • Awyr iach ac ymarfer corff – Gall garddio ar randir fod yn hobi da ac mae’n rhoi cyfle i bobl gael awyr iach, ymarfer eu cyrff ac ymlacio
  • Cynnyrch ffres – mae llysiau rydych chi wedi eu tyfu wastad yn fwy blasus na’r rhai a geir mewn siopau, ac yn rhatach hefyd! Cofiwch mai ar eich cyfer chi yn unig mae bwyd a dyfir gennych chi ac na ddylid ei werthu am elw
  • Cynnyrch organig – Mae llawer o bobl yn garddio ar randiroedd am eu bod am wybod nad oes cemegau niweidiol wedi eu defnyddio wrth dyfu bwyd ac nad oes neb wedi manteisio ar lafur eraill. Os byddwch yn defnyddio dulliau organig bydd angen i chi ddysgu sut i weithio gyda byd natur i reoli plâu a chlefydau a chynhyrchu bwyd heb gemegau
  • Cwrdd â phobl a ffrindiau newydd - Mae rhentu rhandir yn ffordd wych o ehangu eich cylch cymdeithasol. Mae bywyd cymdeithasol gwych mewn llawer o safleoedd rhandir ac mae modd i chi gwrdd â phobl sy’n rhannu’r un diddordebau â chi

Tudalennau cysylltiedig

Biniau Compostio