Coed strydoedd a pharciau

Rydyn ni’n gyfrifol am reoli tua 163,000 o goed ar strydoedd preswyl, wrth ymyl priffyrdd, ac mewn parciau a mannau agored ledled y fwrdeistref sirol.

Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i wneud gwaith cynnal a chadw o ran:

  • iechyd a diogelwch
  • galluogi cerddwyr a cherbydau i deithio yn ddirwystr a diogel
  • rhwystro niwsans cyfreithiol

Ni fyddwn yn mynd ati i dorri neu docio coed heb reswm da. Mae'n ddyletswydd arnom i reoli'r cyflenwad coed er budd y gymuned gyfan ac yn unol ag arferion coedyddiaeth da.

Rheoli coed strydoedd

I fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol rydym yn rheoli ein coed drwy gynnal archwiliadau cylchol gan arbenigwyr coedyddiaeth cymwys. Bydd pob archwiliad yn cynnal asesiad o iechyd a chyflwr y goeden, yn ogystal â’i maint, ac yn nodi unrhyw waith sydd angen ei wneud ar unwaith neu yn y dyfodol.

Ymchwilir i geisiadau yn ôl blaenoriaeth o ran tocio/cael gwared â choed os ydynt yn cydymffurfio â'r meini prawf o ran niwsans cyfreithiol, iechyd a diogelwch, neu i glirio llwybr drwy'r briffordd neu arwyddion, a chaiff unrhyw waith angenrheidiol ei wneud yn seiliedig ar hynny.

Yn dilyn archwiliad, os nad yw natur y gwaith yn berthnasol i unrhyw un o'r rhain, ac os nad oes unrhyw reswm da dros wneud unrhyw waith tocio, yna ni fydd unrhyw waith tocio/torri yn cael ei wneud ar yr adeg honno.

Caiff coeden ei thorri dim ond pan fetho popeth arall, oherwydd bod y goeden yn anniogel neu’n anghynaliadwy yn ei lleoliad. Os rhoddir gwybod i ni fod cyflwr coeden wedi newid yn sylweddol ers yr archwiliad diwethaf, byddwn yn ei harchwilio o’r newydd os yw un o’r Swyddogion Coed yn credu bod hynny’n fuddiol.

Rheoli coed parciau

Rydym yn rheoli pedwar parc y dyfarnwyd y Faner Werdd iddynt, deg mynwent a rhai cannoedd o barciau, tiroedd hamdden a mannau agored eraill yn y fwrdeistref.

Mae gan lawer o’r safleoedd hyn nifer fawr o goed ynddynt ac maent yn agored i’r cyhoedd yn ogystal. Felly, mae’n bwysig ein bod yn cadw’r coed mewn cyflwr da gyda'r gyllideb sydd ar gael i ni.

Rydym ar hyn o bryd yn symud tuag at ddefnyddio system o archwiliadau a gwaith cynnal a chadw a gynllunnir ar gyfer y fath safleoedd. Ar hyn o bryd, gall trigolion, swyddogion y cyngor neu Aelodau etholedig roi gwybod i ni am broblemau penodol yn ymwneud â choed mewn mannau agored – gall y rhain gynnwys ymholiadau yn ymwneud ag iechyd a diogelwch neu niwsans cyfreithiol – a chânt eu trin yn briodol yn yr un modd â choed ar strydoedd neu wrth ymyl y briffordd gyhoeddus.