FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Coed a ddiogelir

Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (ac fel y’i diwygiwyd) yn diogelu coed dan y gyfraith. Dan y ddeddf hon, caiff coed a llwyni mewn Ardaloedd Cadwraeth a/neu dan Orchmynion Diogelu Coed eu diogelu waeth beth fo rhywogaeth neu oedran y goeden.

Gall methu â dilyn y gweithdrefnau priodol arwain at ddwyn achos yn eich erbyn a dirwy sylweddol os ystyrir bod coeden (neu goed) wedi cael ei thocio’n ormodol neu ei gwaredu’n amhriodol heb ganiatâd cynllunio/cymeradwyaeth.

Mae’r ddeddf yn diogelu pob rhan o’r goeden sydd uwchben y ddaear ac oddi tano i’r un graddau.

Mae’n drosedd i dorri, dadwreiddio, difrodi o fwriad neu ddinistrio coeden a ddiogelir.

Bydd contractwr trin coed neu ymgynghorydd coed annibynnol cymeradwy yn gallu eich cynghori ar ba waith a allai fod yn briodol a rhoi dyfynbris i chi os oes angen. Dylech ofyn am ddyfynbris gan o leiaf ddau gwmni.

Mae rhestr o gontractwyr cymeradwy ar gael ar wefan yr Arboriculture Association.

Gorchmynion Cadw Coed

Mae Gorchymyn Cadw Coed yn orchymyn a wneir gennym ni, sy’n rhoi diogelwch cyfreithiol i goed neu goetiroedd. Mae Gorchymyn Diogelu Coed yn rhwystro rhywun rhag torri, dadwreiddio, tocio, difrodi o fwriad neu ddinistrio coed (gan gynnwys torri gwreiddiau) heb ein caniatâd ni.

Nid yw hyn yn golygu na ellir tocio neu dorri’r goeden o gwbl – os yw'r fath gamau’n angenrheidiol a rhesymol yna cânt eu cymeradwyo. Mae’n rhaid i berchennog coeden a ddiogelir dan Orchymyn Diogelu Coed gael caniatâd cyn bwrw ymlaen i wneud gwaith ar y goeden honno. Ewch i’r adran Gorchmynion Diogelu Coed i gael rhagor o wybodaeth.

Coed mewn ardal gadwraeth 

Caiff pob coeden a llwyn mewn ardal gadwraeth sydd â diamedr coes sy’n mesur mwy na 75mm ei diogelu, waeth beth fo taldra'r goeden, ei rhywogaeth neu ei hoedran. 

Os ydych eisiau gwneud gwaith ar goeden mewn ardal gadwraeth bydd rhaid i chi wneud cais am ganiatâd ardal gadwraeth.

Defnyddio map rhyngweithiol y Gorchmynion Diogelu Coed (PDF)