Nid wyf yn gallu gwneud fy mhenderfyniadau fy hun

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn effeithio ar bobl 16 oed neu drosodd ac mae’n darparu fframwaith i amddiffyn pobl nad ydynt yn gallu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain efallai. Gall diffyg gallu ddeillio o anabledd dysgu difrifol, dementia, problemau iechyd meddwl, anafiadau i’r ymennydd, strôc neu anymwybyddiaeth yn sgil anesthetig neu ddamwain neu anaf sydyn. 

Beth mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn ei wneud?

Mae'n rhoi canllawiau clir i ofalwyr a gweithwyr proffesiynol o ran pwy all wneud penderfyniadau ar ran y person sydd â diffyg gallu ym mha amgylchiadau, a sut y dylent fynd ati i wneud hynny. Mae’n cyflwyno Cod Ymarfer i bobl megis gweithwyr gofal sy'n rhoi cymorth i bobl sydd wedi colli'r gallu i wneud eu penderfyniadau eu hunain.

Ei nod yw amddiffyn oedolion sydd wedi’u hanalluogi’n feddyliol i sicrhau y caiff penderfyniadau eu gwneud gyda golwg ar 'eu lles' nhw. Mae’r Ddeddf yn dweud bod rhaid ystyried bod pawb yn gallu gwneud eu penderfyniadau eu hunain oni ddaw'n amlwg na allant wneud hynny. Mae hefyd yn anelu at alluogi pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain cyn belled ag y bod ganddynt y gallu i wneud hynny.

Sut mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn gweithio?

Mae'n galluogi pobl i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer cyfnod y byddant wedi colli'u galluedd drwy eu galluogi i sefydlu Atwrneiaeth (Atwrneiaeth Barhaus Gynt). Bydd hyn yn rhoi mwy o ddewis a rheolaeth dros eu bywydau i bobl sy’n agored i niwed a’u galluogi i ddewis rhywun y maent ymddiried ynddynt i roi trefn ar eu pethau pan na fyddant yn gallu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Mae'n rhaid cofrestru pob atwrneiaeth gyda Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac os caiff ei roi, bydd yn galluogi person i wneud penderfyniadau ynghylch eiddo a busnes rhywun arall (gan gynnwys arian), a/neu driniaeth gofal iechyd.

Mae'r Ddeddf hefyd wedi llunio mesurau diogelwch cyfreithiol i atal twyll a cham-ddefnydd: -

  • Bydd y Llys Gwarchod yn gallu gwneud penderfyniadau terfynol o ran diffyg galluedd rhywun, gall wneud penderfyniadau pwysig ar eu rhan a gall benodi dirprwyon i wneud penderfyniadau ar ran rhywun.
  • Mae Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn arolygu Atwrneiaethau Arhosol ac Atwrneiaethau Parhaus, yn arolygu gwaith y dirprwyon, yn cynorthwyo’r Llys Gwarchod ac yn rhoi cyfarwyddyd o ran y Ddeddf Galluedd Meddyliol i’r cyhoedd.
  • Y drosedd o gam-drin neu esgeuluso person a diffyg galluedd yn fwriadol.
  • Gweithdrefnau a mesurau diogelwch newydd ar gyfer cynnwys pobl mewn gwaith ymchwil pan nad oes ganddynt y gallu i gydsynio.

Beth os nad oes gennyf unrhyw un i’m helpu i wneud penderfyniadau anodd pan na fyddaf yn gallu gwneud hynny fy hun?

Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol wedi sefydlu Gwasanaeth Eirioli Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol. Mae'r gwasanaeth yn helpu pobl sy'n agored i niwed nad ydynt yn gallu gwneud rhai neu’r holl benderfyniadau pwysig ynghylch eu bywydau.

Mae’r gwasanaeth yn golygu y caiff rhai pobl á diffyg galluoedd – gallai hyn gynnwys pobl á dementia, clefyd dementia, anaf i’r ymennydd neu anabledd dysgu difrifol iawn – help i wneud penderfyniadau anodd ynghylch materion pwysig megis triniaethau meddygol neu leoliad eu cartref. Mae wedi’i anelu at bobl nad oes ganddynt berthnasau neu ffrindiau i siarad ar eu rhan.

Ble galla i gael rhagor o wybodaeth?

Dylech gysylltu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y lle cyntaf. I gael cyngor a gwybodaeth, ffoniwch eu huned Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0845 330 2900.

Mae’r Adran Materion Cyfansoddiadol hefyd wedi cyhoeddi taflen yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol y gellir ei lawrlwytho isod: -

Making decisions about your health, welfare and finances…Who decides when you can't?

Os hoffech gael copi caled o’r daflen yna anfonwch e-bost i makingdecisions@dca.gsi.gov.uk neu ffoniwch yr Adran Materion Cyfansoddiadol Ffôn: 020 7210 0038/39.