Darparwyr gofal cartref a gwasanaethau eistedd gyda phobl

Arolygiaeth Gofal Cymru (yr Arolygiaeth) yw'r rheolyddion ar gyfer gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru a'u nod yw rhoi sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd ac argaeledd gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae cyfeirlyfr o wasanaethau gofal cymdeithasol sydd wedi'u cofrestru gyda'r Arolygiaeth ar wefan yr Arolygiaeth.

Mae'r sefydliadau isod ar fframwaith y Cyngor ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth gofal dydd a/neu ofal cartref, gwasanaethau eistedd gyda phobl a byw â chymorth. Mae hyn yn golygu eu bod nhw wedi'u cofrestru gyda'r Arolygiaeth ac, ar hyn o bryd, mae Gwasanaethau Cymdeithasol Caerffili yn contractio gyda'r sefydliadau hyn ar gyfer darparu cymorth gofal dydd a/neu ofal cartref a/neu wasanaethau eistedd gyda phobl.

Sylwch, i'r rhai sy'n ceisio prynu gofal a chymorth yn annibynnol, nid yw bod ar y rhestr hon yn ardystiad nac yn argymhelliad gan y Cyngor o ran unrhyw un sefydliad.

Mae'r adroddiadau arolygu diweddaraf yn cael eu darparu lle maen nhw ar gael a gallwch chi eu gweld nhw drwy ddilyn y dolenni o dan fanylion y darparwr.

  • Mae adroddiadau monitro yn ymwneud ag ymweliadau arferol sy'n cael eu cynnal gan yr adran monitro contractau o fewn gwasanaethau i oedolion. Mae rhestr termau ar gael er gwybodaeth i chi.
  • Mae ymweliadau perfformiad darparwyr yn cael eu cynnal pan fo pryderon cynyddol am ddarparwr ac felly mae angen eu monitro nhw'n fwy rheolaidd.

Rhestr A-Y o ddarparwyr gofal cartref

Cysylltwch â ni