Opsiynau Tai

Ein nod yw hyrwyddo annibyniaeth a sicrhau’r potensial mwyaf i bawb drwy gynnig llety hirdymor a byrdymor mewn amryw leoliadau. Rydym hefyd yn cynorthwyo pobl sy'n dewis byw yn eu cartrefi eu hunain.

Asesu eich anghenion

Nid yw’r gwasanaethau hyn ar gael heb gynnal asesiad o angen. Trafodaeth â chi yw hyn am y ffordd orau o’ch helpu â’ch problemau. Byddwn yn edrych ar eich anghenion ac yn penderfynu p’un a allwch gael y gwasanaethau hyn, gan gynnwys drwy fynd i un o’n canolfannau dydd.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gwblhau asesiad o angen, ewch i’r dudalen Sut i gael help a chymorth..

Llety seibiant

Nod llety seibiant yw rhoi gwasanaethau llety byrdymor o safon i bobl ag anabledd dysgu.

Gan weithio mewn partneriaeth â’u gofalwyr, mae’r gwasanaeth hwn yn ymateb i’w hanghenion, gan eu galluogi i wneud dewisiadau gwybodus, a lle y bo’n bosibl, i fyw bywyd annibynnol.

Mae’r cyngor yn berchen ar ddau sefydliad seibiant byrdymor preswyl sy’n cynnig llety seibiant mewn cartrefi teulu dan y Cynllun Lleoliadau i Oedolion:

Mae Montclaire a Thŷ Gwilym wedi’u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Llety preswyl hirdymor

Nod llety preswyl hirdymor yw rhoi gwasanaethau o safon i bobl ag anableddau dysgu. Ar hyn o bryd mae un sefydliad ym meddiant y cyngor yn y fwrdeistref sirol.

Cynlluniau byw â chymorth

Nod cynlluniau byw â chymorth yw rhoi cymorth i alluogi pobl ag anableddau dysgu i fyw mewn tai cymunedol bach a chynnal eu tenantiaethau.

Ar hyn o bryd mae gwasanaethau llety’n cynnig cymorth i 7 cynllun byw â chymorth yn y fwrdeistref sirol. Gall dau i bedwar tenant fod yn rhan o bob cynllun. Cofrestrwyd y cynllun yn Asiantaeth Gofal Cartref gydag Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru dan y Rheoliadau Gofal Cartref ym Mehefin 2004.

Cysylltwch â ni