Cyfleoedd yn ystod y dydd i oedolion sydd ag anableddau dysgu

Mae Gwasanaethau Dydd yn darparu ystod eang o weithgareddau yn ystod y dydd ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili sy'n cynnwys:

  • Darparu cyfleoedd i sefydlu a chynnal cyfeillgarwch, cymdeithasu a chael mynediad at weithgareddau a gwasanaethau cymunedol.
  • Gwasanaethau yn y gymuned yw’r rhain sy'n annog mwy o annibyniaeth ac yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, galluoedd a gwybodaeth i gymryd mwy o reolaeth dros fywyd bob dydd.
  • Galluogi pobl i gael mynediad at brofiadau cymunedol ystyrlon ac amgylcheddau diogel sydd â chymorth priodol a fydd yn diwallu eu hanghenion iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â darparu gofal seibiant i deuluoedd a gofalwyr.

Mae Gwasanaethau Dydd wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn drwy sicrhau bod yr unigolion y maent yn eu cefnogi yn ganolog i bopeth y maent yn ei wneud drwy:

  • Cydnabod bod gan bob unigolyn ei hunaniaeth, ei anghenion, ei ddymuniadau, ei ddewisiadau, ei gredoau a'i werthoedd ei hun.
  • Cydnabod gwerth profiadau bywyd drwy ddeall pwysigrwydd gorffennol pob unigolyn, ei brofiad presennol a'i obeithion ar gyfer y dyfodol.
  • Deall beth sy'n bwysig i bob unigolyn.
  • Cynyddu lles, hunaniaeth ac ymdeimlad o berthyn pob unigolyn.
  • Deall a dangos y gallu i gysylltu ag unigolion drwy adnabod ac ymateb i'w teimladau a'u hemosiynau.
  • Cynnwys unigolion a'u gofalwyr ym mhob agwedd ar eu gwasanaeth sy'n cynnwys cynllunio, datblygu a'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu.

Y Gwasanaeth Gwirfoddoli

Mae'r Gwasanaeth Gwirfoddoli yn darparu cyfleoedd i bobl ag anabledd dysgu i gymryd rhan weithredol yn eu cymuned, fel arfer drwy weithgareddau hamdden neu dreulio amser gyda'i gilydd gartref. Caiff gwirfoddolwyr eu paru ag unigolyn/pobl sydd â diddordebau tebyg ac maent yn cyfarfod yn rheolaidd lle gwneir cyfeillgarwch.

Pwy sy'n gallu derbyn gwasanaeth?

Mae person yn gymwys i dderbyn gwasanaeth oddi wrth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol os ydynt yn bodloni'r meini prawf canlynol:

  • Cynhaliwyd asesiad o angen gan Dîm Anableddau Dysgu Bwrdeistref Sirol Caerffili.
  • Mae'r person yn byw o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili.
  • Mae'r person yn byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac mae ganddynt asesiad o angen oddi wrth ei hawdurdod lleol sy'n sefydlu ei hawl i wasanaethau.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd yn ystod y dydd, cysylltwch â’r Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.

Polisi Cludiant Cynorthwyol y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion

Mae Gwasanaeth Cludiant Cynorthwyol y Gwasanaethau Cymdeithasol i oedolion yn wasanaeth cludiant i bobl dros 18 oed, er mwyn iddynt gael gwell mynediad at 'weithgareddau cymunedol' ym mwrdeistref Caerffili. Mae gweithgaredd cymunedol yn wasanaeth gofal a chymorth y mae unigolyn yn mynychu oddi cartref, a ddarperir gan Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion fel rhan o gynllun gofal a chymorth.

Polisi Cludiant Cynorthwyol
Polisi Cludiant Cynorthwyol hawdd ei ddarllen

Atebion i’ch cwestiynau

Rydyn ni wedi paratoi rhestr gynhwysfawr o gwestiynau ac atebion sy'n esbonio'r newidiadau i'r gwasanaeth o 25 Hydref 2021.

Os nad yw'ch cwestiwn wedi'i ateb, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 0800 328 4061 neu CwynionaGwybodaethGC@caerffili.gov.uk

Cysylltwch â ni