Larwm Cymunedol
Mae'r gwasanaethau teleofal (a elwir yn larwm cymunedol) yn cynnig tawelwch meddwl i bobl sy’n teimlo bod risg iddynt yn eu cartrefi eu hunain.
Mae’n wasanaeth 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn sy’n rhoi'r rhyddid i chi fyw eich bywyd yn annibynnol gan wybod y gallwch gael cymorth pan fo’i angen arnoch.
Mae’r gwasanaeth teleofal yn gallu cynnig amrywiaeth o offer teleofal i gleientiaid sydd wedi cael asesiad a hwnnw'n nodi teleofal fel rhan allweddol o becyn gofal.
Mae offer teleofal yn cynnwys synwyryddion diogelwch megis synwyryddion carbon monocsid, synwyryddion tymereddau eithafol, botymau galwadau ffug a synwyryddion mwg. Mae synwyryddion eraill y gellir eu darparu lle nodwyd angen yn cynnwys synwyryddion gwely, synwyryddion disgyn, synwyryddion epilepsi, synwyryddion eniwresis a synwyryddion symud. Gall teleofal hefyd gynnig arwyddion allweddol, offer monitro a chyfleuster i atgoffa’r cleient i gymryd ei feddyginiaeth.
Sut mae’r gwasanaeth teleofal yn gweithio
Mae’r gwasanaeth teleofal yn gweithio trwy uned larwm arbennig sydd wedi’i gysylltu i’r llinell ffôn. Mae hyn yn eich galluogi i alw am help unrhyw bryd drwy bwyso larwm crogdlws a wisgir o amgylch eich gwddf.
Mae hwn yn eich cysylltu â chanolfan ymateb lle bydd gweithredwyr cymwys wrth llaw i gynnig cymorth i chi. Gall y cymorth hwn gynnwys cysylltu ag aelod o’ch teulu, ffrind, neu roi gwybod i’r gwasanaethau brys.
Gellir cysylltu synwyryddion teleofal i uned larwm sylfaenol pan fo angen monitro mwy cymhleth.
Fydda i’n gymwys?
Mae’r gwasanaethau teleofal ar gael i unrhyw un sy’n byw mewn llety cyngor neu breifat ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, cyhyd â’u bod yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf canlynol:
- Mae’r defnyddiwr gwasanaeth yn berson hŷn a/ neu agored i niwed a aseswyd fel rhywun sy’n bodloni'r meini prawf cymhwyster
- Mae’r defnyddiwr gwasanaeth yn byw ar ei ben ei hun neu’n cael ei adael ar ei ben ei hun yn aml
Dylid ystyried y sbardunau canlynol fel dangosyddion posibl ar gyfer Teleofal. Mae’r defnyddiwr gwasanaeth:
- yn agored i niwed a gallai fod yn agored i amrywiaeth o risgiau amgylcheddol a chymdeithasol yn y cartref a’r ardal gerllaw.
- â symudedd cyfyngedig
- yn cael problemau gyda’i gof
- wedi disgyn yn ystod y 6 mis cyn yr asesiad
- ofn disgyn yn ei gartref
- wedi’i ddiagnosio ag un neu fwy o gyflyrau cronig
- yn dychwelyd i’r gymuned ar ôl cyfnod o ofal seibiant neu gyfnod yn yr ysbyty
- yn cael anawsterau corfforol a / neu wybyddol ar ôl cael strôc
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych ddiddordeb yn y gwasanaeth teleofal i chi’ch hun neu aelod o’ch teulu, ffoniwch y Gwasanaethau Teleofal am becyn gwybodaeth ar 01443 873656 neu anfonwch e-bost at caerphillycareline@caerphilly.gov.uk.
Gallwch hefyd lawrlwytho’r dogfennau canlynol: