Cymorth i fyw gartref

Wrth i’ch amgylchiadau newid, efallai na fyddwch yn gallu ymdopi yn eich cartref mor dda ag yr oeddech o’r blaen. Mae yna lawer o bethau y gallwch eu gwneud i wneud bywyd yn haws, fel y gallwch fyw o hyd yn eich cartref eich hun am gyhyd â phosib ac efallai bod ond angen ychydig o gymorth i'ch galluogi i wneud hyn. Gall y cymorth fod o ran help symud o gwmpas, glanhau, paratoi prydau bwyd, teimlo'n ddiogel ac ati. Gallwn gynnig cymorth, gwybodaeth a chyngor ymarferol i'ch helpu byw'r bywyd rydych yn ei ddymuno.

Meddyliwch am ddiwrnod arferol yn eich bywyd ac ar ba adegau yn ystod y dydd bydd angen help arnoch.

Pa mor hawdd ydyw i chi wneud y rhain?

  • delio ag hylendid personol, ymolchi a gwisgo
  • paratoi a bwyta prydau bwyd
  • rheoli eich anghenion toiled ac ymataliaeth
  • symud o gwmpas y tŷ

Os ydych yn iawn â phob un o'r rhain, ond credwch yr ydych yn dechrau cael trafferth, efallai y bydd angen dim ond ychydig o gymorth arnoch. Gallwch drefnu gofal eich hun gyda chymorth eich teulu/ffrindiau neu drwy  gysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.

Bydd cael peth cyfarpar ac addasiadau sylfaenol yn gallu gwneud eich bywyd bob dydd yn haws ac yn darparu'r cymorth sydd ei angen arnoch i gyflawni'r tasgau hyn yn ddiogel.

Trefnu eich gofal a chymorth eich hun

Nid oes angen i chi gael asesiad gan Wasanaethau Cymdeithasol er mwyn trefnu gofal a chymorth eich hun. Mae nifer o bobl yn trefnu ac yn talu am eu gofal a chymorth eu hunain am nifer o resymau, gall fod oherwydd nad ydych am unrhyw gymorth gan Wasanaethau Cymdeithasol, neu efallai bydd yn well gennych chi/aelod o'r teulu cael rheolaeth dros y trefniadau hyn, neu efallai nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gan Wasanaethau Cymdeithasol.

Mae llawer o ddewisiadau ar gael pan fyddwch yn trefnu a thalu am eich cymorth. Mae'n bwysig i chi fod yn glir ynghylch y math o gymorth sydd angen arnoch er mwyn penderfynu os yw darparwr gofal neu unigolyn penodol yn gallu cwrdd â’ch anghenion:

Gan ddibynnu ar ba gymorth rydych eisiau, gall brynu gwasanaethau gan Ddarparwr Gofal Cofrestredig preifat ddechrau mor isel â £7.50 am 30 munud. Gallwch drefnu gwasanaeth 'untro', neu gymorth rheolaidd parhaus. Trafodwch gyda'r darparwr gofal pa gymorth rydych ei angen, pa mor aml, pa amseroedd hoffech i’r gofalyddion alw ac unrhyw ddymuniadau eraill gall fod gennych ar sut y darperir y cymorth.

Rhaid i ddarparwyr gofal sy'n cyflogi gweithwyr gofal neu nyrsys sy’n ymgymryd â thasgau gofal personol cofrestru gyda’r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Mae dewis darparwr gofal cofrestredig yn tawelu'ch meddwl bod y gwiriadau a hyfforddiant angenrheidiol wedi'u cynnal.

Cyflogi gweithiwr gofal yn uniongyrchol

Gallwch gyflogi gweithiwr gofal (neu fath o gymorth arall) yn uniongyrchol yn hytrach na mynd drwy ddarparwr gofal. Mae'n bwysig ystyried beth fydd hyn yn golygu, yn arbennig ynghylch unrhyw gontract cyflogaeth ac ymrwymiadau ariannol posibl fel cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Dylech ystyried yn ofalus y dyletswyddau y mae eu hangen arnoch ac ysgrifennu swydd ddisgrifiad fel nad oes unrhyw gamddealltwriaeth gan y naill barti am beth a ddisgwylir ohonynt.

Gwasanaethau Domestig/Golchi

Gallwch gysylltu â darparwyr gofal cofrestredig i holi ynghylch prynu gwasanaethau domestig a/neu olchi dillad, fel arall, gallwch ddod o hyd i wasanaethau o'r fath o fewn eich ardal ar y rhyngrwyd, neu yn y wasg leol.

Prydau Bwyd

Am help gyda phrydau bwyd gallech eu cael yn uniongyrchol i’ch cartref gan y Gwasanaeth Pryd ar Glud, neu efallai y byddwch am ystyried yr opsiynau eraill sydd ar gael i chi, fel Wiltshire Farm Foods neu hyd yn oed gweld os yw tafarndai/caffi lleol yn darparu gwasanaeth danfon prydau bwyd. Mae archfarchnadoedd lleol yn darparu amrywiaeth dda o brydau bwyd parod wedi’u rhewi neu ffres, mae llawer ohonynt bellach yn darparu ar gyfer anghenion deiet gwahanol.

Gwasanaethau Teleofal / Larymau Crog (a elwir weithiau yn larwm cymunedol)

Mae hwn yn wasanaeth monitro 24 awr, 365 diwrnod sy'n rhoi'r rhyddid i chi fyw eich bywyd yn annibynnol gyda'r sicrwydd y gallwch gael cymorth pan mae ei angen arnoch. Mae Teleofal yn rhoi cymorth a sicrwydd i chi, eich teulu a'ch gofalyddion drwy ddefnyddio synwyryddion diwifr sy'n cael eu monitro gan ganolfan alwadau wedi ei staffio.

Efallai y byddwn yn gallu darparu gwasanaethau teleofal i chi os ydych yn bodloni'n meini prawf cymhwyster, neu fe allwch brynu eich offer Teleofal eich un oddi wrth nifer o fanwerthwyr ar-lein a chyflenwyr lleol o ran offer symudedd.

Cysylltwch â ni