Cymorth ar gyfer anawsterau gyda'r clyw

Mae gan un o bob saith o bobl nam ar y clyw. Yn wir, mae llawer o bobl dros 50 oed yn dechrau colli rhywfaint o'u clyw. Gallant gael anhawster i glywed y teledu, y ffôn a sgyrsiau bob dydd.

Os ydych yn meddwl bod hyn yn digwydd i chi, dylech wneud apwyntiad gyda'ch meddyg.

Fel arfer bydd eich meddyg yn trefnu ichi weld ymgynghorydd ENT (y glust/y trwyn/y gwddf). Bydd yr ymgynghorydd ENT yn profi eich clyw ac efallai y cewch gymorth clyw.

Os ydych yn cael anawsterau gyda'ch clyw neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu atgyfeirio rhywun, cysylltwch â'r Tîm Gwybodaeth, Cynghorion a Chymorth.

Gallwn roi cyngor a gwybodaeth ichi os ydych yn fyddar neu wedi colli eich clyw'n barhaol a bod hynny'n effeithio ar eich bywyd bob dydd. Byddwn yn trefnu dehonglydd i'n helpu i wneud hyn os bydd angen.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu ichi gan Weithiwr Cymdeithasol.

Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn siarad â chi am eich clyw ac unrhyw broblemau y gallech fod yn eu cael a bydd yn gwneud asesiad arbennig ohonoch.

Nod y gwasanaeth yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau cywir ichi er mwyn ichi fod yn fwy annibynnol yn eich cartref a'ch cymuned.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys:

  • cofrestru
  • cyngor am wasanaethau sydd ar gael gan yr adrannau iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol ac asiantaethau eraill
  • cyngor ar hyrwyddo diogelwch ac annibyniaeth yn eich cartref
  • cyngor am gyfarpar arbennig y gallwn ei roi ichi
  • cyngor am glybiau lleol i bobl fyddar 

Ydych chi'n colli eich golwg a'ch clyw?

Ewch i'n tudalen ar Anawsterau gyda'r Clyw a'r Golwg.

Efallai y bydd y gwasanaethau canlynol yn ddefnyddiol ichi hefyd:

Cysylltwch â ni