Gofal Iechyd Parhaol (GIP)

Gofal Iechyd Parhaol GIG (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel GIP) yw’r enw a roddir i un neu fwy o’r gwasanaethau a drefnir a chyllidir yn llwyr gan y GIG, yn hytrach na Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae’r GIG yn darparu’r cymorth hwn ar gyfer pobl sydd wedi cael eu hasesu fel bod ‘prif angen iechyd’ arnynt.

Gallwch dderbyn Gofal Iechyd Parhaol mewn unrhyw leoliad gan gynnwys eich cartref neu mewn cartref gofal.

Am fwy o wybodaeth ewch i’r adran Gofal Iechyd Parhaol ar wefan Llywodraeth Cymru.