Gweithgareddau sydd ar gael

Rydym yn cynnig nifer o weithgareddau sy'n addas i bob oedran a gallu.   

Abseilio

Eisiau dysgu sut i fynd i lawr wal fynydd yn gyflym ac yn ddiogel?  Yna, beth am roi cynnig ar abseilio.  Bydd ein staff cymwys yn eich dysgu sut i fynd i lawr clogwyn gan ddefnyddio rhaff ac offer  dringo.

Cerdded antur/Cerdded ceunentydd

Mae hwn yn un o'n gweithgareddau poblogaidd.  Gall cerdded antur gynnwys unrhyw beth o ddringo i fyny rhaeadrau, cropian drwy fwd, neidio i mewn i afonydd neu ddringo coed.  Mae'r gweithgaredd yn amrywio o bryd i'w gilydd yn dibynnu ar oedran a gallu'r cyfranogwyr. 

Canŵio

Mae'r canŵ yn disgyn o grefft a ddatblygwyd gan  Americanwyr Cyntefig.  Mae canŵod yn grefftau agored mawr sy'n gallu cludo hyd at 4 o bobl.  Yn cael eu gyrru gan rwyfau un-llafn, maent i'w defnyddio ar ddŵr tawel.  Nid yw cael eich gwlychu tra'n canwio'n anarferol!

Caiacio

Mae caiacau'n deillio o grefft a ddefnyddir gan y bobl Inuit yn yr Arctig.  Fel arfer bydd y caiac yn cael ei amgáu gyda'r rhwyfwr yn eistedd y tu mewn yn gyrru'r grefft gyda rhwyf ddwy-lafn.  Mae caiacau'n tueddu i gael eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o amgylcheddau dŵr ac maent yr un mor gartrefol ar ddŵr gwyn, y môr neu afonydd tawel.

Beicio mynydd 

Mae'r math hwn o feicio yn cymryd beicio arferol i'r lefel nesaf.  Mae beicio mynydd yn golygu esgyn, beicio i fyny bryniau serth, sy'n gallu bod yn flinedig iawn.  Mae hefyd yn cynnwys disgyniad, beicio i lawr allt, sy'n gallu bod yn heriol ac yn gyffrous.

Dringo creigiau

Mae'r gweithgaredd hwn yn ymwneud â dringo clogwyni.  Gall dringo creigiau ddigwydd dan do ar wal ddringo artiffisial, neu y tu allan ar bron unrhyw fath o wyneb craig; yma yng Nghaerffili rydym yn defnyddio chwareli, clogwyni môr, brigiadau naturiol a chlogwyni mynyddoedd.  Mae dringfa yn cael ei graddio yn nhrefn anhawster.  Bydd y graddau o ddringfeydd a ymgeisir yn dibynnu ar oedran a gallu'r grŵp neu'r unigolyn.

Arfordiro

Mae arfordiro'n cynnwys dringo, nofio, a neidio ar hyd clogwyni ar lan y môr.  Mae hwn yn weithgaredd deniadol, sy'n hudo llawer.  Nid oes angen i wybod sut i nofio i fwynhau arfordiro.

Diogelwch

Mae'r diwydiant awyr agored yn falch o'i record ddiogelwch ardderchog, fel yr ydym yng Ngwasanaeth Addysg Awyr Agored Caerffili.  Mae'r gwasanaeth wedi cael trwydded i ddarparu gweithgareddau anturus oddi wrth yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Anturus.

Mae'r holl weithgareddau yn cario rhywfaint o berygl.  Fodd bynnag, rydym yn gwneud ein gorau i leihau'r perygl hwnnw.  Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio:

  • Staff hyfforddedig a phrofiadol
  • Cyfarpar diogelwch a gynlluniwyd ar gyfer y gweithgaredd sy'n cael ei fonitro'n gyson
  • Safleoedd addas ar gyfer y gweithgareddau dan sylw
  • Gweithgareddau sy'n addas ar gyfer oedran a gallu'r cyfranogwyr

Mae'r holl hyfforddwyr wedi'u hyfforddi mewn cymorth cyntaf ac yn cario offer cymorth cyntaf effeithiol.  Maent hefyd yn cael eu hyfforddi i ymdrin â sefyllfaoedd brys.

Os nad yw'r wybodaeth uchod yn ddigonol neu os oes angen eglurhad, ffoniwch Gwasanaeth Addysg Awyr Agored Caerffili a gofynnwch am gael siarad gyda Hyfforddwr Gweithgareddau Awyr Agored.

Tacl sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau

Bydd angen arnoch:

  • HEN ddillad nad ydych yn poeni am eu gwlychu neu'n mynd yn fwdlyd.  Mae hyn yn cynnwys trowsus tracwisg, crysau-t, dillad isaf, sanau, siwmperi, crysau chwys ayyb
  • Un pâr o esgidiau/hen esgidiau ymarfer ar gyfer gweithgareddau dŵr
  • Un pâr o esgidiau/esgidiau ymarfer ar gyfer gweithgareddau sych
  • Un set o ddillad ar gyfer teithio adref (preswyl yn unig)
  • Taclau ymolch fel sebon, gel cawod ac ati  (preswyl yn unig)
  • Dau dywel (nid eich rhai gorau) un ar gyfer gweithgaredd y dydd
  • Eli haul a het haul neu het wlân a menig (yn dibynnu ar y tywydd)
  • Siaced
  • Newid o ddillad (bob dydd - preswyl yn unig)
  • Pâr sbâr o esgidiau

Bydd unrhyw ddillad arbenigol eraill neu offer ydych angen yn cael eu rhoi i chi ar ôl cyrraedd.  Mae ystafell sychu yn y ganolfan fel y gall dillad gwlyb sychu pan nad ydynt yn cael eu gwisgo.  Yn olaf, ond nid y lleiaf, PEIDIWCH â dod ag eitemau drud neu emwaith ar eich taith.  Os ydynt yn mynd ar goll nid oes llawer y gallwn ei wneud.  Hefyd, PEIDIWCH â dod â mwy na £5.

Cysylltwch â ni