Rhaglen glanhau strydoedd

Dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, rydym yn gyfrifol am sicrhau nad oes sbwriel ar y priffyrdd cyhoeddus. Rydym yn darparu ystod lawn o wasanaethau sy’n helpu i sicrhau bod Caerffili yn lle mwy glân, mwy diogel a mwy gwyrdd i fyw ynddo.

Mae glanhau strydoedd yn rhywbeth sy’n digwydd drwy’r flwyddyn ac mae’r gweithgareddau’n cynnwys: cael gwared ag anifeiliaid marw, baw cŵn ac unrhyw beth sydd wedi’i dipio’n anghyfreithlon, gwacáu biniau sbwriel, clirio unrhyw beth sydd wedi’i ollwng a glanhau cyfleusterau cyhoeddus.

Mae’r gwasanaeth yn ymdrin â phob un o’n safleoedd cyhoeddus a’r ffyrdd mabwysiedig a reolir gan y cyngor.

Trefnir bod y prif ffyrdd yn cael eu hysgubo â pheiriannau’n rheolaidd, lle bo hynny’n bosibl. Caiff ardaloedd â lefel uchel o amwynder, megis canol y dref a chanolfannau siopa lleol, eu glanhau’n ddyddiol. Caiff ardaloedd eraill o dir eu monitro a’u glanhau i fodloni’r safonau a nodir yn Neddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a’r Cod Ymarfer ar gyfer sbwriel.

Rhoi gwybod am broblemau’n ymwneud â glanhau strydoedd

Os byddwch yn sylwi bod angen i ni roi sylw i ardal benodol, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio un o’r dolenni cyswllt isod: