Diogelwch seddi i blant mewn ceir

Mae’r gyfraith yn nodi fel a ganlyn:

  • Rhaid i blant dan dair blwydd oed ddefnyddio sedd ddiogel i blentyn neu sedd godi sy’n briodol i’w pwysau, ym mhob cerbyd (gan gynnwys faniau a cherbydau eraill sy’n cludo nwyddau)
  • Rhaid i blant sydd rhwng tair a 12 mlwydd oed, neu blant sydd dan 1.35 medr (4 troedfedd 5 modfedd) o daldra, ddefnyddio sedd ddiogel a phriodol i blentyn ym mhob cerbyd sydd â gwregysau diogelwch
  • Rhaid i blant sydd dros 1.35 medr o daldra, neu sy’n 12 neu’n 13 oed, wisgo gwregys diogelwch yn y sedd flaen a’r sedd gefn.

Y gyrrwr sy’n gyfrifol am sicrhau bod plant dan 14 oed yn cael eu diogelu’n iawn. Y teithiwr unigol sy’n gyfrifol am hynny pan fydd dros 14 blwydd oed.

Dod i wybod mwy am y gwahanol fathau o seddi diogel i blant

Sut y gallwch gadw eich plentyn yn ddiogel

  • Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r math cywir o sedd.
  • Sicrhewch fod sedd eich plentyn wedi’i gosod yn iawn bob tro y byddwch yn ei defnyddio.
  • Sicrhewch fod copi o’r cyfarwyddiadau ar gyfer gosod y sedd yn cael ei gadw yn eich car bob amser.
  • Sicrhewch bob amser fod gwregys sedd eich plentyn wedi’i addasu’n gywir ac wedi’i roi’n sownd cyn dechrau teithio yn y car, hyd yn oed ar gyfer y teithiau byrraf.
  • Cofiwch osod esiampl dda bob amser drwy roi eich gwregys eich hun yn sownd.Gall anafiadau i blant gael eu lleihau’n sylweddol drwy ddefnyddio sedd ddiogel a phriodol i blant mewn ceir.

Yr hyn yr ydym yn ei argymell

  • Dylech brynu sedd ddiogel i blentyn oddi wrth gyflenwr sydd ag enw da ac sydd ag aelod o staff cymwys i osod y sedd.
  • Dylai sedd ddiogel i blentyn sydd wedi’i gosod yn iawn ffitio’n dynn yn y sedd i oedolyn, heb symud fawr ddim.
  • Ni ddylai bwcwl y gwregys diogelwch orffwys ar ffrâm y sedd ddiogel i blentyn.
  • Dylai’r harnais fod yn ddigon tynn am y babi – ni ddylai fod lle i fwy na dau fys rhwng yr harnais a’r babi.
  • Dylech sicrhau bob amser na chaiff sedd ddiogel sy’n wynebu’r cefn ei rhoi yn y sedd flaen os oes bag awyr gweithredol wedi’i ffitio.

Prynu sedd ail-law

Os byddwch yn dewis prynu sedd ddiogel ail-law i blentyn, dylech sicrhau:

  • Bod cyfarwyddiadau llawn ar gael ar gyfer gosod y sedd
  • Eich bod yn gwybod yn union beth yw hanes y sedd yr ydych yn ei phrynu
  • Nad ydych byth yn prynu sedd sydd wedi bod mewn gwrthdrawiad.

Gwasanaeth rhad ac am ddim ar gyfer gwirio seddi diogel i blant

Bob blwyddyn, rydym yn cynnal digwyddiadau y gall rhieni a gofalwyr y fwrdeistref sirol ddod â’u seddi diogel i blant iddynt er mwyn gwirio eu bod yn ddiogel. Mae arbenigwyr wrth law i gynnig cymorth a chyngor ynghylch dewis y cyfarpar gorau ar gyfer y plentyn a’r cerbyd a’i osod yn ddiogel.

Yn y digwyddiad diwethaf gwelwyd bod 72% o’r seddi a gafodd eu gwirio, sy’n ganran syfrdanol, yn seddi amhriodol a bod gan bron i 40% ohonynt wendidau difrifol a oedd yn golygu eu bod efallai’n beryglus i’w defnyddio.

Roedd y canlynol ymhlith y prif broblemau a nodwyd:

  • Roedd rhai seddi’n anghydnaws â gwneuthuriad a model y car, a oedd yn golygu ei bod yn amhosibl eu gosod yn ddiogel.
  • Roedd rhai seddi’n anaddas ar gyfer maint a phwysau’r plentyn.
  • Nid oedd rhai seddi’n ffitio’n ddigon tynn mewn cerbydau, a oedd yn aml yn golygu eu bod yn symud yn ormodol.
  • Roedd strapiau gwregys y plentyn wedi twistio, a allai achosi cytiau difrifol i’r plentyn mewn damwain.
  • Nid oedd rhai seddi wedi’u gosod yn gywir yn y car, a hynny i raddau a oedd yn golygu na fyddai’r plentyn yn cael ei ddiogelu fawr ddim mewn gwrthdrawiad.
  • Nid oedd rhai seddi hen iawn yn cyrraedd y safonau diogelwch cyfredol.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r adran Safonau Masnach.

Cysylltwch â ni