Problemau’n ymwneud â rheoli traffig

Fel awdurdod priffyrdd, mae dyletswydd arnom i reoli’r rhwydwaith ffyrdd er mwyn sicrhau gymaint ag sy’n bosibl bod traffig yn symud yn ddiogel ac yn hwylus, gan gynnwys cerddwyr a phobl eraill sy’n agored i niwed ar y ffyrdd.

Mae rheoli traffig yn golygu defnyddio amrywiaeth o fesurau sy’n helpu i sicrhau bod traffig yn parhau i symud yn ddiogel. Caiff y mesurau hyn eu darparu’n unol â’n polisi ac maent yn cynnwys y canlynol:

  • mesurau rheoli parcio ar strydoedd
  • terfynau cyflymder
  • mesurau rheoli lorïau
  • signalau ac arwyddion traffig
  • marciau ar y ffyrdd
  • mesurau gostegu traffig
  • croesfannau cerddwyr
  • gwaith ffordd

Fel arall, ffoniwch dîm gofal cwsmer yr adran briffyrdd.