Rhoi gwybod am rwystrau neu unrhyw beth sydd wedi gollwng ar y briffordd

Rydym yn ceisio sicrhau bod unrhyw rwystrau peryglus ac unrhyw bethau peryglus sydd wedi gollwng ar y ffordd, yr ydym yn gwybod amdanynt neu’n cael gwybod amdanynt, yn cael eu clirio.

Rhwystr yw unrhyw beth a allai fod yn beryglus i ddefnyddwyr ffyrdd neu a allai atal y traffig, er enghraifft:

  • Rhwystrau’n ymwneud â’r tywydd, er enghraifft coed sydd wedi cwympo mewn gwyntoedd cryfion, ardaloedd sydd wedi’u gorlifo a lluwchfeydd eira;
  • Anifeiliaid marw ar y ffordd;
  • Coed a llystyfiant sy’n hongian dros y ffordd;
  • Mwd ar y ffordd;
  • Rwbel ar y ffordd;
  • Sgipiau, sgaffaldiau/palisiau, deunyddiau adeiladu neu gaffis stryd a gaiff eu caniatáu dan drwydded yn unig;
  • Hysbysfyrddau;
  • Waliau, gatiau, ffensys a gwrychoedd sydd wedi’u gosod ar draws y briffordd;
  • Nwyddau a gaiff eu harddangos y tu allan i siopau, y tu hwnt i unrhyw flaen-gwrt preifat;
  • Cerbydau sydd wedi’u gadael;
  • Mae achosi rhwystrad wrth barcio a pharcio peryglus yn faterion i'r Heddlu, ffoniwch Heddlu Gwent ar 101 i'w adrodd

I roi gwybod am rwystr neu unrhyw beth sydd wedi gollwng ar briffordd, llenwch y ffurflen ganlynol.

Fel arall, ffoniwch dîm gofal cwsmer yr adran briffyrdd.