Rhoi gwybod am dwll neu am balmant sydd wedi’i ddifrodi

Gall tyllau ffurfio’n gyflym ar ffyrdd a phalmentydd, yn enwedig dros fisoedd y gaeaf.

Rydym yn blaenoriaethu’r holl dyllau er mwyn sicrhau bod y rhai mwyaf peryglus yn cael eu hatgyweirio erbyn y diwrnod wedyn. Dylai’r gweddill gael eu hatgyweirio cyn pen 4 wythnos.

Wrth roi gwybod am dyllau, disgrifiwch natur a lleoliad y twll mor fanwl ag sy’n bosibl. Byddai’n ddefnyddiol pe baech yn rhoi eich manylion cyswllt rhag ofn y bydd angen i un o’n harchwilwyr gael eglurhad ynghylch union leoliad y broblem.

Fel arall, ffoniwch dîm gofal cwsmer yr adran briffyrdd.