FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Goleuadau Stryd a rhoi gwybod am oleuadau stryd diffygiol

Mae goleuadau stryd yn helpu ffyrdd a llwybrau troed i gael eu defnyddio'n ddiogel. Rydym yn gyfrifol am gynnal dros 27,000 o oleuadau stryd.

Rydym yn annog adroddiadau gan y cyhoedd ynghylch diffygion a phroblemau i'n helpu ni i drefnu i atgyweiriadau gael eu cynnal.

Rhoi gwybod am oleuadau stryd diffygiol

Yn anffodus, er bod archwiliadau rheolaidd yn cael eu cynnal, mae’n anochel bod problemau’n codi o bryd i’w gilydd gyda’n goleuadau stryd. Os byddwch yn dod ar draws golau stryd diffygiol, rhowch wybod i ni.

Er mwyn ein helpu i ymdrin â’r broblem cyn gynted ag sy’n bosibl, byddai’n ddefnyddiol pe baech yn gallu rhoi gwybod i ni beth yw rhif colofn y golau stryd, enw’r ffordd ac union leoliad y golau.

Fel arall, ffoniwch dîm gofal cwsmer yr adran briffyrdd.

Faint o amser y bydd y gwaith atgyweirio’n ei gymryd?

Mae’n ofynnol i’n contractwr, Centre Great Ltd atgyweirio diffygion yn unol â’r amserlenni canlynol:

  • Bydd difrod damweiniol lle mae golau stryd yn cael ei ystyried yn anniogel neu lle mae gwifrau trydan agored, yn cael eu hatgyweirio o fewn dwy awr o gael eu hysbysu
  • Namau sengl o fewn pedwar diwrnod gwaith ar ôl eu hysbysu - Gweler Cwestiynau Cyffredin.
  • Namau adran sy'n effeithio ar fwy na dwy lamp yn olynol mewn ardal o fewn dau ddiwrnod gwaith o gael eu hysbysu

Datblygiadau tai newydd a ffyrdd preifat

Datblygwr y safle, ac nid y cyngor, sy’n gyfrifol am osod goleuadau stryd mewn datblygiad tai newydd. Os ydym wedi cytuno i fabwysiadu'r ffordd, mae’n ofynnol i’r datblygwr osod y goleuadau stryd i safon y cytunwyd arni cyn i ni fabwysiadu’r ffordd. Fodd bynnag, ni allwn fynnu bod goleuadau stryd yn cael eu gosod tra bydd y safle’n cael ei ddatblygu.

Nid ni sy’n gyfrifol am oleuadau ar ffyrdd preifat nad ydynt wedi’u mabwysiadu, a rhaid i berchnogion yr eiddo hwnnw wneud eu trefniadau eu hunain i osod goleuadau ar y ffyrdd a’r llwybrau troed.