Graean a’r ffordd y mae’n gweithio

Rydym yn defnyddio halen (graean) i drin ffyrdd ac ardaloedd i gerddwyr ac i lenwi biniau graean.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm gofal cwsmer yr adran briffyrdd.

Pam y caiff graean ei ddefnyddio ar ffyrdd ac ardaloedd i gerddwyr? 

Caiff ffyrdd ac ardaloedd i gerddwyr eu trin â graean i atal iâ a rhew rhag ffurfio ac i leihau’r eira sy’n cronni arnynt, er mwyn helpu i ddarparu llwybr diogel ar hyd y ffyrdd a’r ardaloedd i gerddwyr sy’n cael y flaenoriaeth fwyaf.

Sut y mae graean yn atal iâ a rhew rhag ffurfio?

Bydd iâ a rhew yn ffurfio pan fydd dŵr yn rhewi. Bydd graean a gaiff ei wasgaru ar hyd ffyrdd ac ardaloedd i gerddwyr yn cymysgu ag unrhyw leithder ac yn creu hylif sy’n cynnwys halen. Mae hylif sy’n cynnwys halen yn rhewi ar dymheredd is na dŵr, felly ni fydd iâ a rhew yn ffurfio ar y ffordd er bod y tymheredd yn is na’r pwynt rhewi ar gyfer dŵr. Dyna pam y mae dŵr hallt y môr yn rhewi ar dymheredd is na dŵr ffres. Mae union bwynt rhewi hylif sy’n cynnwys halen yn dibynnu ar ba mor hallt (pa mor gryf) yw’r hylif.

Caiff y swm priodol o raean ei wasgaru ar hyd y ffyrdd er mwyn sicrhau gymaint ag sy’n bosibl bod unrhyw leithder ar y ffyrdd yn cynnwys digon o halen i atal iâ a rhew rhag ffurfio.

A fydd y graean yn toddi eira?

Na fydd. Nid yw’r graean yn toddi eira’n uniongyrchol, oherwydd yn gyntaf rhaid iddo gymysgu â’r eira i greu hylif sy’n cynnwys halen a gostwng y pwynt toddi. Os rhagwelir eira, caiff graean ei wasgaru o flaen llaw er mwyn i’r eira cyntaf sy’n disgyn allu dechrau cymysgu â’r graean i greu hylif sy’n cynnwys halen. Gall hynny leihau’r eira sy’n cronni ac atal iâ rhag ffurfio. 

Fodd bynnag, pan fydd hi’n bwrw eira am gyfnodau hir gall yr eira ddisgyn yn gynt na’r amser y mae’n ei gymryd i’r graean gymysgu â’r eira, sy’n golygu y gall yr eira gronni. Bydd yn rhaid i’r eira sydd wedi cronni gael ei wthio oddi ar y ffyrdd gan erydr eira neu’i glirio o’r ardaloedd i gerddwyr, ond mae’n llawer haws gwneud hynny os bydd y graean wedi’i wasgaru cyn i’r eira ddisgyn, oherwydd bydd y graean a wasgarwyd eisoes yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd yr eira’n rhewi ar yr wyneb.

Nid yw gosod graean ar ben eira sydd wedi disgyn eisoes yn cynnig llawer o fanteision. Yn ddelfrydol, dylai’r eira gael ei glirio cyn i’r graean gael ei osod ar y ffordd neu’r ardal i gerddwyr. 

Pryd yw’r amser gorau i wasgaru’r graean?

Mae hynny’n dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau. Pan fydd rhagolygon y tywydd wedi cadarnhau’n bendant y bydd angen graeanu’r ffyrdd, byddwn yn graeanu gyda’r nos a/neu yn y bore os yn bosibl. Mae graeanu ar yr adegau hynny’n sicrhau bod y graean yn cael yr effaith orau posibl. Bydd gwasgaru graean ar yr adegau hynny hefyd yn golygu bod y ffyrdd yn cael eu trin cyn yr oriau brig o ran traffig, cyn i iâ a rhew ffurfio, a phan fydd digon o draffig ar y ffyrdd i helpu’r graean i gymysgu â’r lleithder i ffurfio hylif sy’n cynnwys halen.

Pan nad oes modd i ragolygon y tywydd gadarnhau’n bendant bod angen trin y ffyrdd, byddwn yn monitro’r data am y tywydd yn barhaus ac yn trefnu gwaith graeanu dim ond os oes ei angen. Os bydd yr amser graeanu’n cyd-daro â’r oriau brig, gall y lorïau graeanu wynebu oedi difrifol a mynd yn sownd yng nghanol traffig arall. Felly, byddwn bob amser yn ceisio osgoi graeanu yn ystod yr oriau brig os yw hynny’n bosibl. Gall trafferthion godi pan fydd disgwyl iddi barhau i fwrw glaw nes y bydd yn ddigon oer i rewi, neu pan fydd disgwyl i law droi’n eira. Mewn amgylchiadau o’r fath, rhaid i’r lorïau graeanu aros nes y bydd y glaw wedi pallu, oherwydd fel arall bydd y graean yn cael ei olchi i ffwrdd.

Beth yw ‘Safecote’?

Mae’r graean yr ydym yn ei ddefnyddio ar ffyrdd ac ar ardaloedd i gerddwyr yn cynnwys ‘Safecoat’. Sodiwm clorid pur (halen) yw dros 90% o ‘Safecoat’, a Marl Keuper yw mwyafrif y sylweddau eraill nad ydynt yn toddi, sy’n helpu i ddiogelu ansawdd yr halen. Mae marl hefyd yn helpu i wella ffrithiant pan gaiff halen ei ddefnyddio i doddi iâ ar y priffyrdd.

Caiff ‘Safecote’ ei ychwanegu at y creighalen er mwyn:

  • Gwella’r broses o wasgaru’r halen yn union lle mae ei angen
  • Lleihau’r difrod a wneir i’r lôn gerbydau gan brosesau rhewi a dadmer
  • Lleihau erydu
  • Lleihau’r defnydd o greighalen
  • Gwella’r graddau y caiff wyneb y ffordd ei gadw’n gyfan

Am ba hyd y gellir storio creighalen?

Rydym yn gorchuddio ein cyflenwadau graean er mwyn sicrhau bod ansawdd y graean yn cael ei ddiogelu’n dda a’i fod yn y cyflwr gorau posibl ar gyfer graeanu. Dyna pam yr ydym bob amser yn gofyn i chi gadw caeadon biniau graean ar gau er mwyn atal ansawdd y graean rhag dirywio.

Os caiff ‘Safecoat’ ei gadw’n sych, mae’n gallu para am amser hir. Mae hefyd yn fwy effeithiol os yw’n cael ei gadw’n sych cyn cael ei wasgaru. Os bydd yn dod i gysylltiad â dŵr bydd yn toddi ac yn cael ei olchi i ffwrdd, sy’n golygu y bydd yn llai hallt pan gaiff ei wasgaru ac y bydd felly’n llai effeithiol. Bydd creighalen yn glynu at ei gilydd hefyd pan fydd yn gwlychu, felly bydd yn rhaid ei falu cyn y gellir ei ddefnyddio. Fodd bynnag, bydd talpiau’n dal ar ôl ynddo’n aml, sy’n golygu y bydd y creighalen yn cael ei wasgaru’n llai cyson ac y bydd yn llai effeithiol o ganlyniad.

O ble y mae’r cyngor yn cael ei greighalen?

Ein cyflenwr halen yw Salt Union - y cwmni sy’n rhedeg cloddfa greighalen fwyaf y DU yn Winsford, Swydd Gaer, a’r prif gyflenwr creighalen naturiol ym Mhrydain. Mae Salt Union yn cynhyrchu halen drwy’r flwyddyn, sy’n ein galluogi i gynyddu lefelau ein cyflenwadau yn ystod y gwanwyn, yr haf a’r hydref.

Ffeithiau am halen a thriniaethau

  • Tymheredd wyneb y ffordd a ph’un a yw’r ffordd yn wlyb neu’n sych sy’n penderfynu pa driniaeth y mae ei hangen – nid tymheredd yr aer. Hyd yn oed ar ddiwrnodau oer, efallai y bydd y ffyrdd wedi cadw digon o wres i olygu na fydd angen eu trin.
  • Caiff dros 2 filiwn o dunelli o raean ei wasgaru ar hyd ffyrdd y DU bob blwyddyn. Caiff y rhan fwyaf ohono ei wasgaru ar draffyrdd, cefnffyrdd a phrif ffyrdd. Caiff llai nag un rhan o dair o’r ffyrdd eraill eu trin.
  • Mae graeanu ffyrdd y DU yn costio dros £150 miliwn y flwyddyn.
  • Heb waith graeanu, byddai’r oedi a gâi ei achosi’n costio £2 biliwn y flwyddyn.
  • Mae gwariant gwasanaeth y gaeaf yn hollol ddibynnol ar y tywydd a gall amrywio’n sylweddol, sy’n golygu bod rheoli cyllidebau’n waith anodd iawn.
  • Bob blwyddyn, caiff oddeutu 1,000 o bobl yn y DU eu lladd neu’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd y mae eira neu iâ arnynt.
  • Mae canlyniadau arolwg EuroRAP yn dangos bod 5.9 person ym mhob 100,000 o’r boblogaeth mewn perygl o gael eu lladd mewn damwain draffig ym Mhrydain, sef y ffigur isaf yn holl wledydd Ewrop.
Cysylltwch â ni