Arweiniad cyn gwneud cais cynllunio

Pam defnyddio'r gwasanaeth cyngor cyn gwneud cais cynllunio?

Mae trafod yn gynnar yn gallu helpu i gyflawni'r canlyniad gorau ar gyfer eich cais chi a'r ardal gyfagos.

Mae'n rhoi gwybodaeth i chi yn gynnar am ystyriaethau cynllunio, risgiau a materion yn ymwneud â'ch cynnig chi a sut y gallwch chi eu goresgyn.

Mae'n rhoi gwybodaeth i chi am unrhyw gyfraniadau ariannol neu fuddion cymunedol a allai fod yn berthnasol.

Mae'n gallu cyflymu gwaith prosesu unrhyw gais cynllunio dilynol.

Bydd tâl yn cael ei godi am y gwasanaeth hwn, a Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r ffioedd.

Y gwasanaethau cyn gwneud cais cynllunio rydyn ni'n eu cynnig?

We offer a statutory service and offer 2 additional levels of service:

  1. Gwasanaeth statudol cyngor cyn gwneud cais cynllunio (sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru).

  2. ​Joint Pre Planning and SUDS Application.

  3. Gwasanaeth ychwanegol sy'n cael ei ddarparu gennym ni.

Cyfrinachedd gwybodaeth

Mae'n bosibl y bydd yr wybodaeth mewn perthynas â thrafodaethau cyn gwneud cais yn destun ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Mae'r Ddeddf a'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau ar gyfer rhai eithriadau o'r angen i ddatgelu gwybodaeth fasnachol sensitif ac, mewn achosion lle mae ymgeiswyr o'r farn bod gwybodaeth benodol wedi ei heithrio o ofynion y Ddeddf neu'r Rheoliadau, dylid rhoi'r cyfiawnhad dros eu sefyllfa nhw i'r Awdurdod Cynllunio Lleol.

Cysylltwch â ni