Mathau o geisiadau

Canllaw i Godi Estyniad i'ch

Canllaw i Godi Estyniad i'ch

Bydd y canllaw hwn yn eich tywys drwy'r broses reoli adeiladu ac mae’n anelu at ddangos i chi sut y gall eich prosiect gael ei effeithio gan y Rheoliadau Adeiladu. Mae'n cynnwys cyngor ar brosiectau adeiladu nodweddiadol fel estyniadau, addasiadau garej, addasiadau llofft ac addasiadau seler.

Gallwch wneud cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu drwy ddefnyddio un o’r dulliau canlynol:

  • Cais cynlluniau llawn
  • Cais hysbysiad adeiladu
  • Cais rheoleiddio

Caiff pob dull ei esbonio isod, fodd bynnag gall rheolau rheoliadau adeiladu fod yn gymhleth yn dibynnu ar y math o waith sydd dan sylw. Oherwydd hyn, rydym yn argymell y dylech gysylltu â ni am eglurhad.

Cais cynlluniau llawn

Gyda’r math hwn o gais, rydych yn cyflwyno ffurflen gais, y ffi sy’n ofynnol a dau gopi o’r cynlluniau sy’n dangos yn union sut y caiff eich cynnig ei adeiladu. Yna byddwn yn gwirio’r cynlluniau yn ofalus yn unol â’r safonau sy’n ofynnol yn unol â’r rheoliadau adeiladu, a cheisio dod o hyd i’r holl broblemau ar yr adeg y mae’n fwyaf hawdd i’w cywiro.

Ar ôl i’r cynllun gael ei gymeradwyo, dylid cynnal arolygon yn rheolaidd yn ystod y cyfnod adeiladu.

Cais hysbysiad adeiladu

Gyda’r math hwn o gais, nid oes ond yn rhaid cyflwyno ffurflen gais, cynllun bloc ar raddfa ofynnol o 1:1250 a’r ffi sy’n ofynnol. Nid yw'n ofynnol cyflwyno cynlluniau gyda chais hysbysiad adeiladu fel arall (heblaw am gynllun o'r safle os yw estyniad yn rhan o'r gwaith). Fodd bynnag, gall fod yn ofynnol i ni ofyn i chi gyflwyno cynlluniau neu fanylion sy’n egluro’r broses adeiladu er mwyn cadarnhau bod yr holl waith yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau adeiladu.

Nid yw fel arfer yn briodol defnyddio hysbysiad adeiladu ar gyfer unrhyw beth heblaw am waith domestig megis newidiadau strwythurol syml, megis ailosod to, garejys sengl a thai allan. Bydd angen cyflwyno cais cynlluniau llawn os yw’r cynnig yn ymwneud â safle masnachol, diwydiannol neu fanwerthu.

Mae’r system hysbysiadau adeiladu yn gweithredu ar sail gwirio’r gwaith ar y safle wrth iddo gael ei adeiladu, a chan hynny caiff pob cam ei gymeradwyo gan y swyddog rheoli adeiladu ar ôl i’r swyddog hwnnw archwilio’r gwaith a phenderfynu ei fod yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau adeiladu. Ar ôl archwilio’r gwaith, os bernir nad yw’r gwaith yn cydymffurfio, gofynnir i’r sawl sy’n gwneud y gwaith ei newid neu ei symud ymaith.

Rhaid i chi gyflwyno hysbysiad adeiladu o leiaf ddau ddiwrnod cyn i chi ddechrau'r gwaith.

Anfanteision hysbysiad rheoli adeiladu

Er y gall hysbysiad adeiladu ymddangos yn ddull deniadol, dylech ystyried y canlynol:

  • Gan nad yw’n ofynnol i chi roi cynlluniau ar adnau, ni chaiff hysbysiad cymeradwyo ei gyhoeddi.
  • Gan nad yw dyluniad papur yn cael ei gymeradwyo cyn i’r gwaith ddechrau ar y safle, mae mwy o risg yn gysylltiedig â’r broses adeiladu o ran sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheoliadau adeiladu.
  • Nid oes unrhyw warchodaeth rhag erlyniad am fethu â chydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu a fyddai ar gael drwy gadw at ddyluniad cynllun a gymeradwywyd.
  • Os bydd rhaid newid neu symud ymaith waith adeiladu o ganlyniad i archwiliad, bydd cost yn gysylltiedig â hynny, a gallai’r gost honno fod yn fwy o lawer na chost llunio cynlluniau i’w cymeradwyo.
  • Rydym yn codi’r un tâl yn union am hysbysiad adeiladu â chyfanswm y taliadau am gyflwyno cais cynlluniau llawn.
  • Os ydych wedi cyflwyno cais cynlluniau llawn ac yna wedi dechrau’r gwaith cyn i’r penderfyniad gael ei wneud ar y cynlluniau, bydd y cais yn gweithredu yn yr un modd â hysbysiad adeiladu yn ystod y cyfnod interim nes bod penderfyniad yn cael ei gyhoeddi.

Cais rheoleiddio

Nid yw’n beth anghyffredin i waith adeiladu gael ei wneud heb gymeradwyaeth rheoleiddio adeiladu. Mewn achosion o’r fath, bydd problemau’n aml yn codi pan ddaw’n bryd i chi werthu eich eiddo.

Mae “cais rheoleiddio” yn gais ôl-weithredol sy’n ymwneud â gwaith nas awdurdodwyd yn flaenorol, megis gwaith a wnaed heb ganiatâd rheoliadau adeiladu, a ddechreuwyd ar 11 Tachwedd 1985 neu ar ôl hynny.

Diben y gwaith yw rheoleiddio’r gwaith nas awdurdodwyd a chael “tystysgrif rheoleiddio”. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gallai fod angen datguddio, symud ymaith a/neu gywiro gwaith er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu. Argymhellwn eich bod yn cysylltu â ni i drafod eich amgylchiadau unigol cyn cyflwyno cais.


Ydych chi'n adeiladu draenio cynaliadwy 

Mae Systemau Draenio Cynaliadwy yn fath o ddraenio sydd wedi'i gynllunio i reoli dŵr ffo arwynebol mewn ffordd fwy cynaliadwy heb orfod defnyddio pibellau na thanciau.
Darllenwch am Systemau Draenio Cynaliadwy 
 

Cysylltwch â ni