Ffenestri a drysau newydd

Canllaw i Godi Estyniad i'ch

Canllaw i Godi Estyniad i'ch

Bydd y canllaw hwn yn eich tywys drwy'r broses reoli adeiladu ac mae’n anelu at ddangos i chi sut y gall eich prosiect gael ei effeithio gan y Rheoliadau Adeiladu. Mae'n cynnwys cyngor ar brosiectau adeiladu nodweddiadol fel estyniadau, addasiadau garej, addasiadau llofft ac addasiadau seler.

Bydd angen i chi gydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu wrth osod ffenestri, drysau neu oleuadau to newydd mewn adeiladau domestig ac annomestig i leihau colli ynni.

Os ydych chi’n gwerthu eich eiddo, bydd syrfewyr eich prynwyr yn gofyn am dystiolaeth bod unrhyw ffenestri newydd a gafodd eu gosod ar ôl mis Ebrill 2002 yn cydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu newydd.

Mae dwy ffordd o brofi eich bod wedi cydymffurfio:

  • Tystysgrif sy’n dangos bod y gwaith wedi’i gyflawni gan osodwr sydd wedi’i gofrestru o dan Gynllun FENSA.
  • Tystysgrif gan eich awdurdod lleol sy’n nodi bod y gosodiad wedi derbyn cymeradwyaeth yn unol â rheoliadau adeiladu.

Cynllun FENSA 

Ffederasiwn Gwydr a Gwydriad ac mae wedi’i gymeradwyo gan lywodraeth ganolog. Caiff sampl o waith gan bob gosodwr ei arolygu gan arolygwyr sydd wedi’u penodi gan FENSA i sicrhau bod y safonau yn cael eu cynnal. Yn dilyn hynny, bydd FENSA yn hysbysu awdurdodau lleol am bob gosodiad FENSA gan ddosbarthu tystysgrifau i berchnogion y tai i gadarnhau bod y gosodiadau yn cydymffurfio â’r rheoliadau.

Os ydych chi’n trefnu i osodiad gael ei gyflawni gan gwmni nad yw’n rhan o gynllun FENSA, neu sy’n cael ei gyflawni fel rhan o brosiect gwaith eich hun, bydd angen i chi gysylltu â ni i’w gymeradwyo o dan y rheoliadau adeiladu. Rydym yn ymwybodol o bob gosodwr yn yr ardal sydd wedi’i gymeradwyo a bydd modd i ni gwaith adnabod sydd heb ei awdurdodi yn hawdd iawn. Dylech chi fod yn ymwybodol mai perchennog yr eiddo sy’n gyfrifol am sicrhau bod gwaith wedi’i gyflawni yn unol â’r rheoliadau adeiladu.

Rydym yn eich cynghori’n gryf i gadarnhau bod y gosodwr wedi’i gymeradwyo gan gynllun FENSA cyn i chi gytuno i brynu ffenestri neu ddrysau newydd neu arwyddo cytundeb. Os nad ydych chi’n gwneud hyn, bydd angen i chi gyflwyno cais i ni roi cymeradwyaeth o dan y rheoliadau adeiladu, a byddwn yn codi ffi am hyn.

Am wybodaeth bellach ewch i wefan FENSA.

Cysylltwch â ni