Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu arnaf?

Canllaw i Godi Estyniad i'ch

Canllaw i Godi Estyniad i'ch

Bydd y canllaw hwn yn eich tywys drwy'r broses reoli adeiladu ac mae’n anelu at ddangos i chi sut y gall eich prosiect gael ei effeithio gan y Rheoliadau Adeiladu. Mae'n cynnwys cyngor ar brosiectau adeiladu nodweddiadol fel estyniadau, addasiadau garej, addasiadau llofft ac addasiadau seler.

Bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer y rhan fwyaf o waith adeiladu. Mae’r gofyniad hwn yn wahanol i ganiatâd cynllunio, a rhaid gwneud cais amdano ar wahân.

Mae’r rheoliadau’n gymhleth er mwyn sicrhau y caiff yr adeiladau eu codi yn unol â’r safonauy cytunwyd arnynt, ond mae’r rheoliadau yn hanfodol er mwyn hybu hygyrchedd, iechyd a diogelwch ac effeithlonrwydd ynni yn y cartref.

Gwaith adeiladu sydd angen cymeradwyaeth 

Mae angen cymeradwyaeth ar gyfer llawer o brojectau poblogaidd i wella cartrefi, gan gynnwys addasiadau, estyniadau ac insiwleiddio waliau ceudod.

Mae’r mathau canlynol o brojectau yn destun rheoliadau:

  • Newidiadau strwythurol i’r adeilad
  • Y rhan fwyaf o estyniadau i adeilad, gan gynnwys addasu’r atig a'r garej, ond heb gynnwys portshys ac ystafelloedd gwydr (gweler yr eithriadau isod)
  • Newidiadau strwythurol, megis symud waliau cynhaliol ymaith
  • Wrth osod ffenestri newydd gan ddefnyddio adeiladwr neu gwmni ffenestri nad yw wedi’i gofrestru gyda’r Cynlluniau Personau Cymwys perthnasol.
  • Gosod systemau gwresogi, dŵr poeth ac aerdymheru
  • Gosod offer ystafell ymolchi ychwanegol
  • Gwaith gosod trydanol domestig
  • Newidiadau i systemau draenio
  • Ailosod to (os yw hynny’n cynnwys mwy na 25% o arwynebedd y to)
  • Gosod ffenestri, drysau neu ffenestri to newydd
  • Tanategu adeilad
  • Adnewyddu elfen thermol e.e. waliau, lloriau a thoi
  • Newid statws ynni adeilad
  • Newid defnydd adeilad e.e. addasu ysgubor

Esemptiadau

Mae’r rheoliadau adeiladu yn eithrio rhai adeiladau o’r angen i wneud cais. Mae’r adeiladau hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Adeiladau sengl sy’n cynnwys peirianwaith neu offer nad yw pobl yn ymweld â nhw heblaw ar gyfer gwneud gwaith cynnal a chadw neu drwsio.
  • Rhai mathau penodol o dai gwydr ac adeiladau amaethyddol.
  • Adeiladau sengl bychain llai na 30 metr sgwâr o faint nad ydynt yn cynnwys unrhyw lety â gwely.
  • Estyniadau i adeilad drwy ychwanegu ato ar y llawr daear (h.y. ar ei seiliau ei hun) fel a ganlyn: - Ystafelloedd gwydr, Canopïau, Portshys, Llwybrau dan Do a Chysgodfeydd Ceir, oll gydag arwynebedd llawr nad yw’n fwy na 30 metr sgwâr.
  • Adeiladau dros dro nas bwriedir iddynt sefyll yn y fan honno am fwy na 28 diwrnod. 

Ydych chi'n adeiladu draenio cynaliadwy 

O 7 Ionawr 2019, bydd yn ofynnol i holl ddatblygiadau newydd o fwy nag un tŷ, neu ble mae ardal yr adeiladu yn 100m2 neu'n fwy, gael draenio cynaliadwy er mwyn rheoli dŵr wyneb ar y safle.

Mae cymeradwyaeth y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn wahanol i ganiatâd cynllunio, ac ar wahân iddo, a rhaid ceisio'r ddau cyn dechrau unrhyw waith adeiladu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Ewch i wefan y porth cynllunio ‘A oes angen caniatâd arnoch’ ar gyfer canllawiau ac enghreifftiau o achosion lle gallai fod angen rheoliadau adeiladu.

Cysylltwch â ni